o zone login
  1. You are at:
  2. Home
  3. Cymraeg
  4. Amdanom ni

Amdanom ni

Mae'r Cyngor Osteopathig Cyffredinol (GOsC) yn rheoleiddio'r maes osteopathi yn y DU. Yn ôl y gyfraith, rhaid i osteopathiaid gofrestru gyda'r GOsC er mwyn ymarfer yn y DU.

Amcan cyffredinol y GOsC yw diogelu'r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys dilyn yr amcanion canlynol:

a) diogelu, hyrwyddo a chynnal iechyd, diogelwch a lles y cyhoedd;
b) hyrwyddo a chynnal hyder y cyhoedd ym maes osteopathi; a
c) hybu a chynnal safonau ac ymddygiad proffesiynol priodol ar gyfer aelodau’r proffesiwn hwnnw.

Beth rydyn ni'n ei wneud

  • Mae'r GOsC yn cadw Cofrestr o bawb sydd â chaniatâd i ymarfer osteopathi yn y DU.
  • Rydym yn gweithio gyda'r cyhoedd a’r proffesiwn osteopathig i hyrwyddo diogelwch cleifion trwy gofrestru gweithwyr proffesiynol cymwys ac rydym yn pennu, cynnal a datblygu safonau ymarfer ac ymddygiad osteopathig.
  • Rydym yn helpu cleifion sydd â phryderon am osteopath, ac mae’r pwer gennym i dynnu unrhyw osteopathiaid sy'n anaddas i ymarfer, oddi ar y Gofrestr.
  • Rydym yn sicrhau ansawdd addysg osteopathig
  • Rydym yn pennu gofynion ar gyfer osteopathiaid mewn perthynas â'u datblygiad proffesiynol parhaus.

Adroddiad Blynyddol

Mae ein Hadroddiad Blynyddol a'n Cyfrifon yn rhoi trosolwg o'n gwaith dros y flwyddyn ddiwethaf.

Mae ein hadroddiadau blynyddol ar gael yn Gymraeg ers 2023. Mae'r holl adroddiadau blynyddol blaenorol ar gael yn Saesneg.

  • Darllenwch ein Hadroddiad Blynyddol 2023