o zone login
  1. You are at:
  2. Home
  3. Cymraeg
  4. Adnoddau a chyhoeddiadau
  5. Safonau Ymarfer Osteopathig

Safonau Ymarfer Osteopathig

Y Safonau Ymarfer Osteopathig yw'r safonau sy'n ofynnol gan osteopathiaid i sicrhau ansawdd y gofal mae gan gleifion hawl i'w dderbyn ac i amddiffyn cleifion rhag niwed.

Mae pob osteopath yn cael copi printiedig o'r Safonau Ymarfer Osteopathig wrth gofrestru am y tro cyntaf. Gallwch brynu copïau print pellach am £3.50 yr un, ynghyd â £1.08 ar gyfer postio a phacio yn y DU. £4.30 yw cost postio a phacio i Ewrop, a £4.95 i weddill y byd.

I archebu copïau Cymraeg, e-bostiwch ein Tîm Cyfathrebu ar info@osteopathy.org.uk. Gallwch ein ffonio ar 020 7357 6655 estyniad 242 hefyd, ond dim ond yn Saesneg y gallwn siarad â chi, gan nad oes gennym aelod o staff sy’n siarad Cymraeg ar hyn o bryd.

Os ydych chi'n e-bostio, nodwch eich enw, rhif cofrestru os ydych chi'n osteopath, a'r cyfeiriad postio.

Byddwn yn cynnwys anfoneb gyda'ch archeb.

Lawrlwytho fersiwn Gymraeg o'r Safonau Ymarfer Osteopathig

Gallwch hefyd ymweld â'n gwefan Saesneg bwrpasol i weld y Safonau Ymarfer Osteopathig hefyd.