o zone login
  1. You are at:
  2. Home
  3. Cymraeg
  4. Adnoddau a chyhoeddiadau
  5. Llais cleifion

Llais cleifion

Un o brif flaenoriaethau'r GOsC yw gwrando a dysgu gan gleifion osteopathi. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â chleifion ac osteopathiaid i sicrhau ein bod yn rhoi cleifion wrth wraidd yr hyn a wnawn, ac i wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau cymaint o gyfleoedd â phosib i gleifion rannu eu barn.

Fel rhan o'n cynlluniau ar gyfer mwy o weithio mewn partneriaeth, rydym yn chwilio'n gyson am gleifion a fyddai â diddordeb mewn cymryd rhan mewn unrhyw un neu bob un o nifer o weithgareddau amrywiol gan gynnwys grwpiau ffocws, gweithdai ac erthyglau.

Ydych chi'n osteopath gyda chleifion sy'n awyddus i rannu eu hadborth? Hoffen nhw helpu i lywio rheoleiddio, addysg a safonau iechyd? Os felly, anogwch nhw i gysylltu â ni. Rydym wedi creu posteri/taflenni y gallwch eu defnyddio yn eich practis er mwyn tynnu sylw eich cleifion at y cyfle hwn.

I lawrlwytho poster / taflen, cliciwch ar y llun.

Patient voice poster Welsh

 

 

 

 

 

 

 

 

Os oes gennych eich syniadau eich hun ar sut allwn ni wella ein gwaith partneriaeth gyda chleifion, neu os hoffech chi rannu dysgu o'ch gweithgareddau ymgysylltu llwyddiannus â chleifion, rhowch wybod i ni. Anfonwch e-bost atom yn info@osteopathy.org.uk.

Gallwch ysgrifennu atom yn Gymraeg, naill ai drwy e-bost neu'r post, a byddwn yn ymateb yn Gymraeg.