o zone login
  1. You are at:
  2. Home
  3. Cymraeg
  4. Amdanom ni

Amdanom ni

Mae'r Cyngor Osteopathig Cyffredinol (GOsC) yn rheoleiddio'r maes osteopathi yn y DU. Yn ôl y gyfraith, rhaid i osteopathiaid gofrestru gyda'r GOsC er mwyn ymarfer yn y DU.

Ein rôl ni yw diogelu iechyd, diogelwch a lles y cyhoedd, a diogelu enw da'r proffesiwn osteopathig. Rydyn ni'n gyfrifol am sicrhau bod gan y cyhoedd hyder yn y proffesiwn osteopathi, ac rydyn ni'n gyfrifol am y safonau proffesiynol y mae'n rhaid i osteopathiaid a myfyrwyr osteopathi eu dilyn er mwyn ymarfer yn ddiogel.

Yn gyfreithiol, allwn ni ddim hyrwyddo osteopathi i'r cyhoedd na gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill. Allwn ni ddim chwaith lobïo'r llywodraeth ar ran y proffesiwn osteopathig.

Yr hyn rydyn ni'n ei wneud

  • Rydyn ni'n cadw Cofrestr o bawb sy'n cael ymarfer osteopathi yn y DU.
  • Rydyn yn gweithio gyda’r cyhoedd, cleifion a’r proffesiwn osteopathig i benderfynu ar, cynnal a datblygu safonau ansawdd uchel o ymarfer ac ymddygiad osteopathig
  • Rydyn ni'n helpu cleifion gydag unrhyw bryderon y maen nhw'n eu codi am osteopath ac mae gennym ni'r pwer i dynnu oddi ar y Gofrestr unrhyw osteopathiaid nad ydyn nhw'n bodloni'r safonau proffesiynol ac sy'n anaddas i ymarfer.
  • Rydyn ni'n gwirio ansawdd addysg osteopathig ac yn penderfynu ar y safonau ymarfer y mae'n rhaid i fyfyrwyr osteopathig eu dangos cyn iddyn nhw raddio.
  • Rydyn ni'n diogelu'r teitl osteopathig rhag camddefnydd drwy sicrhau mai dim ond y rhai sydd â'r cymwysterau cywir sy'n gallu galw eu hunain yn osteopath.
  • Rydyn ni'n sicrhau hefyd bod osteopathiaid yn cyflawni gweithgareddau i gefnogi eu datblygiad proffesiynol parhaus.

Adroddiad Blynyddol

Mae ein Hadroddiad Blynyddol a'n Cyfrifon yn rhoi trosolwg o'n gwaith dros y flwyddyn ddiwethaf.

Mae ein hadroddiadau blynyddol ar gael yn Gymraeg ers 2023. Mae'r holl adroddiadau blynyddol blaenorol ar gael yn Saesneg.