Diogelu’r teitl ‘osteopath’
Mae’r teitl ‘osteopath’ wedi’i ddiogelu gan y gyfraith. Mae yn erbyn y gyfraith i unrhyw un alw ei hun yn osteopath oni bai ei fod wedi cofrestru gyda’r Cyngor Osteopathig Cyffredinol, sy’n nodi ac yn hyrwyddo safonau cymhwysedd, ymddygiad a diogelwch uchel.
Gallwn erlyn unigolion sy’n ymarfer fel osteopathiaid pan nad ydyn nhw ar Gofrestr y GOsC, ac rydym yn gwneud hynny. Mae ein polisi gorfodi diogelu’r teitl osteopathig yn nodi sut a phryd y byddwn yn cymryd camau yn erbyn unigolion heb gofrestru sy’n galw eu hunain yn osteopathiaid.
Rhoi gwybod i ni
Os ydych chi’n credu bod rhywun yn galw ei hun yn osteopath pan nad yw wedi cofrestru gyda ni, gallwch roi gwybod i ni trwy gysylltu â’n Hadran Reoleiddio trwy e-bostio regulation@osteopathy.org.uk; drwy ffonio 020 7357 6655 estyniad 224 neu 249; neu drwy’r post:
Regulation Department
General Osteopathic Council
Osteopathy House
176 Tower Bridge Road
London
SE1 3LU
Er mwyn ymchwilio, byddai angen rhywfaint o dystiolaeth arnom fel rheol, megis llyfryn, taflen, cerdyn busnes, hysbyseb, anfoneb, cyfeiriad gwefan, cofnod mewn cyfeiriadur neu lun o arwydd camarweiniol. Bydd yn helpu os gallwch anfon unrhyw dystiolaeth sydd gennych atom.
Beth rydyn ni’n ei wneud
Pan fyddwn ni’n derbyn gwybodaeth bod rhywun yn galw ei hun yn osteopath heb gofrestru gyda ni, byddwn yn ysgrifennu at yr unigolyn dan sylw, yn esbonio’r gyfraith ac yn ei hysbysu na ddylai ddefnyddio’r teitl ‘osteopath’. Gofynnir iddo gadarnhau na fydd yn defnyddio’r teitl mwyach. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae hyn yn llwyddiannus o ran atal yr ymddygiad tramgwyddus.
Er ein bod bob amser yn ysgrifennu yn gyntaf gyda llythyr ‘stopio a rhoi’r gorau iddi’, os yw ymarferydd heb ei gofrestru yn parhau i alw ei hun yn osteopath, byddwn yn mynd ymlaen i ystyried erlyniad yn ei erbyn. Bydd y rhai sy’n cael eu herlyn a’u cael yn euog nid yn unig yn derbyn euogfarn ond gallent hefyd fod yn atebol am ddirwy a chostau llys.