A yw osteopathi’n ddiogel?
Mae osteopathiaid yn weithwyr gofal iechyd proffesiynol a reoleiddir yn statudol ac mae’n rhaid iddynt gael eu hyfforddi’n briodol, a bodloni’r Safonau Ymarfer Osteopathig.
Rhaid iddynt fod â’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i gefnogi eu gwaith, a chadw’r rhain yn gyfredol gyda datblygiad proffesiynol parhaus. Mae hyn oll yn cefnogi darparu gofal osteopathig diogel, moesegol ac effeithiol i gleifion. Fel gyda phob ymyrraeth, gall fod risgiau (er enghraifft, efallai y byddwch chi’n teimlo poen ar ôl rhai technegau â llaw), ond bydd eich osteopath yn esbonio’r manteision a’r risgiau i chi fel y gallwch benderfynu gyda’ch gilydd beth yw’r dull cywir i chi.