Ymweld ag osteopath
Yn yr adran hon
Rhaid i unrhyw un sy’n galw ei hun yn osteopath yn y DU fod wedi’i gofrestru gyda’r Cyngor Osteopathig Cyffredinol.
Gwiriwch fod yr osteopath wedi’i gofrestru trwy chwilio a gwirio’r Gofrestr.
Dylai practisau osteopathig allu darparu gwybodaeth am yr osteopath, y clinig, yr hyn y mae’r driniaeth yn ei gynnwys, dulliau talu ac unrhyw beth sydd angen i chi ei wybod cyn eich ymweliad cyntaf.
Gallai osteopathiaid dynnu sylw at eu statws cofrestredig trwy ddefnyddio Marc Cofrestru GOsC neu bosteri yn eu practis neu ar yr wybodaeth maen nhw’n ei darparu i gleifion.
Os nad yw’r osteopath rydych chi’n chwilio amdano wedi’i restru ar y gofrestr, nid yw hyn o reidrwydd yn golygu nad yw wedi’i gofrestru gyda ni. Efallai nad yw sillafiad ei enw yn gywir, neu efallai ei fod wedi newid ei enw. Os na allwch ddod o hyd i’r osteopath rydych chi’n chwilio amdano neu os oes angen help pellach arnoch, cysylltwch â ni ar info@osteopathy.org.uk neu ffoniwch 020 7357 6655.
Sut i chwilio
I ddod o hyd i osteopathiaid yn eich ardal chi, gallwch ddefnyddio’r Gofrestr i chwilio yn ôl tref, sir neu god post neu ddefnyddio ein map rhyngweithiol o’r DU (cliciwch ar Pori yn ôl sir). Rhowch eich cyrchwr ar sir i weld enw’r sir. Cliciwch ar y sir i weld y rhestr.
Mae clicio ar enw osteopath yn eich arwain at dudalen gyda manylion amdano/amdani, gan gynnwys rhif cofrestru, blwyddyn cymhwyso, blwyddyn cofrestru a manylion cyswllt.