Hyrwyddo eich cofrestriad yn Gymraeg

Bydd hyrwyddo ymwybyddiaeth o’ch cofrestriad (eich statws proffesiynol) yn helpu i gynyddu hyder y cyhoedd yn eich ymarfer, osteopathiaid ac osteopathi.

Mae gennym amrywiaeth o adnoddau Cymraeg a Saesneg i chi eu defnyddio i wneud pobl yn ymwybodol eich bod wedi cofrestru.

Pam hyrwyddo eich cofrestriad?

Mae cleifion eisiau’r sicrwydd bod y sgiliau, y wybodaeth a’r farn broffesiynol gennych chi er mwyn eu helpu i wneud penderfyniadau pwysig am eu hiechyd a’u triniaeth. Maen nhw angen gwybod eu bod yn cael eu hamddiffyn rhag niwed a bod ganddyn nhw rywle i droi os oes ganddyn nhw unrhyw bryderon. Mae’r ffaith eich bod chi’n weithiwr iechyd proffesiynol rheoledig yn rhoi hyder i gleifion eich dewis chi ac ymddiried ynoch chi.

Beth mae’n ei olygu i fod wedi’ch cofrestru?

Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i bob osteopath yn y DU gofrestru gyda’r Cyngor Osteopathig Cyffredinol. Mae cofrestru’n golygu bod yr osteopath:

Posteri gwybodaeth gyhoeddus

Mae posteri sy’n hyrwyddo statws osteopathiaid fel gweithwyr iechyd proffesiynol cofrestredig, ac yn tynnu sylw at fanteision hyn i gleifion, ar gael i’w harddangos yn eich clinig, ystafell aros ac ardaloedd cyhoeddus addas. Dysgwch fwy am bosteri gwybodaeth gyhoeddus.

Eich tystysgrif gofrestru GOsC

Gall pob osteopath lawrlwytho copi o’i dystysgrif gofrestru GOsC ar unrhyw adeg ar ôl ymuno â’r Gofrestr ac ar ôl adnewyddu ei gofrestriad bob blwyddyn. Efallai y byddai’n ddefnyddiol arddangos eich tystysgrif gofrestru GOsC bresennol mewn man amlwg yn eich practis. Mae cleifion yn dweud wrthym eu bod nhw’n croesawu’r sicrwydd clir hwn o’ch statws proffesiynol.