Gwiriad manwl ar gyfer gweithgaredd a reoleiddir
Fel osteopath, efallai y byddwch yn gweithio gyda phlant a/neu oedolion agored i niwed ac felly, fel rhan o’ch cofrestriad, mae’n ofynnol i chi gael gwiriad manwl ar gyfer gweithgaredd a reoleiddir.
Yn y DU, un o asiantaethau’r Llywodraeth, y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), sy’n gwneud hyn.
Mae osteopathi fel proffesiwn wedi’i eithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974, felly bydd pob euogfarn yn cael ei rhestru p’un a yw wedi’i disbyddu neu heb ei disbyddu.
Gwneud cais am wiriad DBS
Er mwyn gwneud cais am gofrestriad gyda’r Cyngor Osteopathig Cyffredinol, bydd gofyn i chi gael y lefel uchaf o wiriad DBS, sef gwiriad DBS Manwl gyda Rhestr(au) Gwaharddedig.
Ni allwch wneud cais am wiriad DBS fel unigolyn – rhaid i chi gyflwyno cais trwy gorff ymbarél sydd wedi’i gofrestru gyda’r DBS.
Mae gennym berthynas ag un o’r cyrff ymbarél hyn, First Advantage, sy’n prosesu’r holl wiriadau DBS ar ran y Cyngor. Os byddwch yn defnyddio First Advantage, gallwch wneud cais am eich gwiriad DBS ar-lein.
Canlyniadau’r gwiriad (datgeliad)
Bydd defnyddwyr enwebedig o’r Cyngor yn gallu cael mynediad at eich datgeliad wedi’i gwblhau trwy wefan ddiogel a ddarperir gan First Advantage. Nid ydym yn cael copïau papur.
Os oes unrhyw rybuddion neu euogfarnau ar eich datgeliad DBS, nid yw’r canlyniadau ar gael i’r Cyngor ar-lein. Bydd angen i chi anfon copi o’ch datgeliad DBS atom yn uniongyrchol, a’r ffordd hawsaf o wneud hyn yw trwy e-bost.
Datgeliadau DBS presennol
Rydym yn derbyn datgeliadau DBS sydd o fewn chwe mis i’r dyddiad cyhoeddi pan fydd eich cais yn barod i’w ystyried ar gyfer cofrestru.
Os oes gennych ddatgeliad DBS eisoes a’ch bod am weld a allwch ei ddefnyddio i gefnogi eich cais i’r Cyngor, anfonwch y dystysgrif datgeliad lawn atom trwy e-bost fel y gallwn roi gwybod i chi.
Gwasanaeth Diweddaru’r DBS
Os ydych wedi tanysgrifio i Wasanaeth Diweddaru’r DBS, efallai na fydd yn ofynnol i chi gwblhau datgeliad DBS arall. Er mwyn i ni gadarnhau hyn, byddai angen i chi gyflwyno’ch tystysgrif datgeliad wreiddiol i ni trwy e-bost. Byddem yn gwirio mai dyma’r lefel gywir o wiriad DBS ac yn cadarnhau bod eich manylion yn parhau i fod yn gyfredol ar Wasanaeth Diweddaru’r DBS.
Os yw’ch datgeliad DBS gwreiddiol ar y lefel gywir ac os yw eich manylion yn cael eu gwirio ar Wasanaeth Diweddaru’r DBS, ni fydd angen i chi gael gwiriad DBS newydd.
Manylion cyswllt
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y gofynion ynghylch gwiriad DBS ar gyfer cofrestru, cysylltwch â ni yn registration@osteopathy.org.uk.