Pwyllgorau
Mae chwe phwyllgor yn gweithredu polisïau'r Cyngor ac yn arfer awdurdod dirprwyedig ar gyfer rhai rolau statudol a rheoleiddiol.
Sefydlwyd tri o’r pwyllgorau (pwyllgorau statudol â swyddogaethau cyfreithiol penodol) dan Ddeddf Osteopathiaid 1993. Mae tri arall (gan gynnwys y Pwyllgor Polisi ac Addysg, y Pwyllgor Cynghori ar Bolisi gynt, sy'n cyflawni dyletswyddau statudol y Pwyllgor Addysg) wedi’u sefydlu gan y Cyngor i'n helpu i gyflawni ein dyletswyddau.
Y Pwyllgor Ymchwilio
Mae'r Pwyllgor Ymchwilio (statudol) yn cynnal yr ymchwiliad cychwynnol i bryder a godwyd yn erbyn osteopath lle mae honiad o ymddygiad annerbyniol difrifol, anallu proffesiynol neu faterion yn ymwneud ag afiechyd corfforol neu feddyliol.
Mae'n cynnwys hyd at 15 aelod, osteopathiaid a lleygwyr, nad ydynt yn aelodau o'r Cyngor ac sy'n cael eu penodi gan y Cyngor. Mae'r Pwyllgor yn gallu cyfethol aelodau, yn ddarostyngedig i Reol 3 Rheolau'r Pwyllgorau Statudol.
Y Pwyllgor Polisi ac Addysg
Mae'r Pwyllgor Polisi ac Addysg yn cyfrannu at ddatblygiad y Cyngor ar bob mater polisi. Bydd y Pwyllgor yn ymgymryd hefyd â'r swyddogaethau statudol sydd wedi'u neilltuo i'r Pwyllgor Addysg fel y cyfeirir atynt yn y Ddeddf Osteopathiaid.
Y Pwyllgor Ymddygiad Proffesiynol
Mae'r Pwyllgor Ymddygiad Proffesiynol (statudol) yn gwrando ar achosion sy'n ymwneud ag ymddygiad annerbyniol difrifol, anallu neu euogfarnau troseddol. Os bydd y Pwyllgor yn canfod y profir unrhyw achos o'r fath, mae'n gosod cosb briodol ar yr osteopath.
Mae'n cynnwys hyd at 18 aelod, osteopathiaid a lleygwyr, nad ydynt yn aelodau o'r Cyngor ac sy'n cael eu penodi i'r pwyllgor gan y Cyngor. Gall y Pwyllgor gyfethol aelodau yn ddarostyngedig i Reol 3 Rheolau'r Pwyllgorau Statudol.
Mae'r paneli sy'n clywed achosion unigol yn cynnwys tri pherson, gydag o leiaf un lleyg ac un osteopath, o blith aelodau'r pwyllgor hwn.
Y Pwyllgor Iechyd
Mae'r Pwyllgor Iechyd (statudol) yn ystyried achosion lle honnir bod osteopath mewn iechyd corfforol neu feddyliol gwael. Bydd yn cymryd camau priodol er budd y cyhoedd a'r osteopath.
Mae'n cynnwys hyd at 18 aelod, osteopathiaid a lleygwyr, nad ydynt yn aelodau o'r Cyngor ac sy'n cael eu penodi i'r Pwyllgor gan y Cyngor. Gall y Pwyllgor gyfethol aelodau yn ddarostyngedig i Reol 3 Rheolau'r Pwyllgorau Statudol. Mae'r paneli sy'n clywed achosion unigol yn cynnwys tri pherson: dau aelod lleyg ac un osteopath, o blith aelodau'r Pwyllgor hwn. Mae asesydd meddygol yn eistedd ar y panel os oes angen hefyd.
Y Pwyllgor Archwilio
Mae'r Pwyllgor Archwilio yn bwyllgor anstatudol sy'n cynghori'r Cyngor ar bob mater sy'n ymwneud ag archwilio mewnol ac allanol, rheoli risg a llywodraethu corfforaethol.
Mae'n cynnwys dau aelod o'r Cyngor (un lleyg ac un osteopath) y mae un ohonynt yn gadeirydd, a dau aelod allanol.
Y Pwyllgor Pobl
Mae'r Pwyllgor Pobl yn goruchwylio pob mater yn ymwneud â phenodiadau a pholisi taliadau mewn perthynas â swyddogion anweithredol a staff y Cyngor Osteopathig Cyffredinol. Mae'r polisïau ar dâl ar gyfer aelodau'r Cyngor a'r pwyllgorau a phanelwyr addasrwydd i ymarfer ar gael ar dudalen y Llawlyfr Llywodraethu.
Mae'r pwyllgor yn cynnwys y ddau aelod lleyg (Cadeirydd yw un ohonyn nhw) a dau aelod cofrestredig o'r Cyngor, ac un aelod lleyg allanol gydag arbenigedd priodol.