Llywodraethu gwybodaeth
Mae'r wybodaeth sydd gennym yn ased hanfodol ac yn rhan annatod o lywodraethu corfforaethol, gan alluogi ein sefydliad i gyflawni ei swyddogaethau statudol a rheoli gwasanaethau ac adnoddau’n effeithlon.
Fel corff cyhoeddus, a rheoleiddiwr statudol, mae gan y GOsC bob math o wybodaeth gan gynnwys:
- gwybodaeth am unigolion sydd ar y Gofrestr y mae'n ofynnol i'r GOsC ei chynnal dan adran 2(3) o Ddeddf Osteopathiaid 1993;
- gwybodaeth am ddarparwyr addysgol osteopathig a'r cymwysterau a roddir ganddynt, y mae'n ofynnol i'r GOsC eu cydnabod dan adran 14 o Ddeddf Osteopathiaid 1993;
- gwybodaeth am bryderon a godwyd gan aelodau'r cyhoedd ac ymholiadau;
- cofnodion cleifion a gedwir fel rhan o ymchwiliadau gan y GOsC i bryderon am ei gofrestreion; a
- deunydd rheoleiddio a pholisi cyffredinol, gan gynnwys gwybodaeth yn ymwneud â rhanddeiliaid GOsC.
Fframwaith Llywodraethu Gwybodaeth
Nod ein Fframwaith Llywodraethu Gwybodaeth yw gwneud y canlynol:
- cadw cyfrinachedd, uniondeb, diogelwch a hygyrchedd systemau prosesu data a gwybodaeth a gedwir gan y GOsC; a
- gwneud y mwyaf o'r wybodaeth sydd yn nwylo'r GOsC.
Mae'r fframwaith yn ceisio sicrhau bod gwybodaeth:
- yn cael ei defnyddio'n deg ac yn gyfreithlon
- yn cael ei chofnodi'n gywir ac yn ddibynadwy
- yn cael ei chadw'n ddiogel ac yn gyfrinachol, am gyfnod cymesur o amser
- yn cael ei defnyddio'n effeithiol
- yn cael ei rhannu'n briodol ac yn gyfreithlon
- yn cael ei gwaredu'n ddiogel.
Cydymffurfio â'r gofynion
Nod y fframwaith yw sicrhau bod y GOsC yn cydymffurfio â gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol perthnasol sy'n ymwneud â thrin gwybodaeth, a hynny'n unol â'r arferion gorau sy'n dod i’r amlwg yn y maes hwn.
Trin gwybodaeth
Mae'r fframwaith yn ceisio sicrhau hefyd bod staff a swyddogion anweithredol yn cael eu hyfforddi'n briodol ac yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau unigol ac ar y cyd mewn perthynas â'r holl wybodaeth a gedwir gan y GOsC, a bod gweithdrefnau priodol ar waith ar gyfer ymchwilio ac adrodd am achosion o dorri cyfrinachedd data.