o zone login
  1. You are at:
  2. Home
  3. Cymraeg
  4. Amdanom ni
  5. Diogelu’r teitl osteopathig

Diogelu’r teitl osteopathig

Rhan o'n rôl fel rheoleiddiwr osteopathi yn y DU yw gwarchod y teitl 'osteopath' rhag cael ei ddefnyddio gan unrhyw un nad yw ar ein Cofrestr, ac felly heb ganiatâd cyfreithiol i ymarfer osteopathi yn y DU.

Pan fydd person yn defnyddio'r teitl 'osteopath', dylai hynny olygu ei fod ar ein Cofrestr ac yn weithiwr gofal iechyd proffesiynol hyfforddedig a chymwys sydd â'r sgiliau a'r wybodaeth ddiweddaraf sy'n cadw safonau ymarfer uchel ac sydd ag yswiriant indemniad proffesiynol.

Mae hyn yn golygu y gall aelodau o'r cyhoedd a chleifion sy'n ceisio triniaeth gan osteopath fod yn sicr eu bod yn gweld gweithiwr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n gymwys i ymarfer osteopathi.

Rydyn ni'n rhoi’r pwys mwyaf ar warchod teitl. Mae gweithwyr proffesiynol heb eu rheoleiddio sy'n defnyddio neu'n cysylltu eu hunain â'r teitl 'osteopath' yn cyflwyno risg i ddiogelwch cleifion ac yn tanseilio enw da'r proffesiwn cyfan.

Y ddeddfwriaeth

Mae Deddf Osteopathiaid 1993 yn caniatáu i ni ymchwilio i bryderon am gamddefnyddio'r teitl. Mae adran 32(1) yn ei gwneud hi’n drosedd i berson nad yw wedi'i gofrestru gyda'r GOsC ddisgrifio ei hun, naill ai'n benodol neu'n ymhlyg, fel unrhyw fath o osteopath.

Mae adran 32(1) yn berthnasol i'r Deyrnas Unedig ac yn rhestru, yn benodol, y teitlau gwarchodedig canlynol:

  • osteopath
  • ymarferydd osteopathig
  • meddyg osteopathig
  • osteopathydd
  • osteotherapydd

Cryfhau ein gwaith o warchod y teitl

Yn 2025, cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus i gael barn ar ein cynllun i ofyn am ddiwygiadau i Ddeddf Osteopathiaid 1993, i ddarparu amddiffyniad pellach i gleifion a'r cyhoedd rhag pobl sy’n camddefnyddio'r teitl 'osteopath.'  Rydyn ni’n ymwybodol o duedd sy'n tyfu'n gyflym o unigolion nad ydyn nhw wedi'u cofrestru gyda'r GOsC yn defnyddio termau sydd â chysylltiad agos â'r term 'osteopath'.

Mae termau fel 'technegau osteopathig' neu 'driniaeth osteopathig' (‘osteopathic manipulation’) yn cael eu defnyddio mewn deunydd hyrwyddo wedi'i dargedu at gleifion a'r cyhoedd, a gallai hyn greu'r argraff bod yr unigolion hyn yn osteopathiaid. Darllenwch fwy am yr ymgynghoriad hwn sydd bellach wedi dod i ben neu lawrlwythwch y ddogfen ymgynghori i gael gwybod mwy.

Sut rydyn ni'n gwarchod y teitl

Rydyn ni’n canolbwyntio ar achosion sy'n cyflwyno risg i ddiogelwch cleifion a’r cyhoedd. Rydyn ni hefyd yn mabwysiadu ymateb cymesur os ydyn ni’n clywed honiadau bod y teitl osteopath yn cael ei gamddefnyddio.

Mae ein datganiad polisi ar amddiffyn y teitl osteopathig yn esbonio'n fanwl sut rydyn ni’n penderfynu cymryd camau yn erbyn unigolion nad ydyn nhw ar ein Cofrestr ond sy'n galw eu hunain yn osteopathiaid. Mae'r polisi hefyd yn cynnwys enghreifftiau o ble rydyn ni wedi llwyddo i erlyn unigolion nad ydyn nhw ar ein Cofrestr, gan gynnwys:

  • person anghofrestredig a oedd yn galw ei hun yn 'osteopath ceffylau'
  • person anghofrestredig a oedd yn awgrymu ei fod yn osteopath ar ei wefan
  • person a oedd yn parhau i alw ei hun yn osteopath ar ôl iddo gael ei dynnu oddi ar y Gofrestr.

Mae ein polisi hefyd yn ei gwneud hi’n ofynnol i ni:

  • geisio hawlio costau erlyniad troseddol yn ôl bob amser os caiff y diffynnydd ei gael yn euog neu os yw'n pledio'n euog
  • ceisio cyhoeddusrwydd bob amser am bob erlyniad llwyddiannus.

Gallwn ddyroddi'r hyn a elwir yn llythyrau 'stopio a rhoi'r gorau iddi' ac, yn yr achosion mwyaf difrifol er budd y cyhoedd, gallwn gyflwyno erlyniadau preifat yn erbyn unigolion. Gellir codi achosion posibl o dorri Adran 32 o Ddeddf Osteopathiaid 1993 gyda'r GOsC drwy e-bostio: regulation@osteopathy.org.uk

Rhoi gwybod i ni

Os ydych chi'n credu bod rhywun yn galw ei hun yn osteopath pan nad yw wedi cofrestru gyda ni, gallwch roi gwybod i ni drwy gysylltu â'n Hadran Reoleiddio trwy e-bostio regulation@osteopathy.org.uk; drwy ffonio 020 7357 6655 estyniad 224 neu 249; neu drwy'r post:

Regulation Department
General Osteopathic Council
Osteopathy House
176 Tower Bridge Road
London SE1 3RL

Os byddwch chi'n cysylltu â ni drwy e-bost neu drwy'r post yn Gymraeg, byddwn yn ymateb i chi yn Gymraeg. Yn anffodus ni allwn dderbyn galwadau ffôn yn Gymraeg gan nad oes gennym aelod o staff sy'n siarad Cymraeg.

Er mwyn ymchwilio, byddai angen rhywfaint o dystiolaeth arnom fel rheol, megis llyfryn, taflen, cerdyn busnes, hysbyseb, anfoneb, cyfeiriad gwefan, cofnod mewn cyfeiriadur neu lun o arwydd camarweiniol. Bydd yn helpu os gallwch anfon unrhyw dystiolaeth sydd gennych atom.

Beth rydyn ni'n ei wneud

Pan fyddwn ni’n derbyn gwybodaeth bod rhywun yn galw ei hun yn osteopath heb gofrestru gyda ni, byddwn yn ysgrifennu at yr unigolyn dan sylw, yn esbonio'r gyfraith ac yn ei hysbysu na ddylai ddefnyddio'r teitl osteopathig. Gofynnir iddynt gadarnhau na fyddant yn defnyddio'r teitl mwyach. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae hyn yn llwyddiannus o ran atal yr ymddygiad tramgwyddus.

Os bydd ymarferydd anghofrestredig yn parhau i ddweud ei fod yn osteopath, byddwn yn mynd ymlaen i ystyried erlyniad yn ei erbyn. Bydd y rhai sy'n cael eu herlyn a'u cael yn euog nid yn unig yn derbyn euogfarn ond gallai fod gofyn iddyn nhw dalu dirwy a chostau llys hefyd.

Gweithio gyda'r Awdurdod Safonau Hysbysebu

Mae'r GOsC a'r Awdurdod Safonau Hysbysebu yn poeni am unigolion sydd naill ai'n defnyddio'r teitl osteopath, neu'n cysylltu eu hunain â'r teitl osteopath, pan nad ydynt wedi'u cofrestru gyda'r rheoleiddiwr statudol. Mae'r ddau ohonom ni o'r farn bod hyn yn gamarweiniol i'r cyhoedd ac o bosibl yn rhoi cleifion mewn perygl o gael niwed. Fe wnaethom gyhoeddi neges ar y cyd am hyn ym mis Ionawr 2026.

Os gwneir cwyn i'r Awdurdod Safonau Hysbysebu, bydd yn cael ei hystyried i weld a oes materion y gellid mynd i'r afael â nhw lle mae'r hysbysebu yn camarwain y cyhoedd ynghylch statws, cymwysterau a phrofiad y rhai sy'n darparu'r gwasanaethau.

Mae gan yr Awdurdod Safonau Hysbysebu y pwerau i wahardd hysbysebu sy'n gamarweiniol neu'n anghyfrifol. Gellir codi pryderon am hysbysebu a ddefnyddir gan unigolion heb eu rheoleiddio gyda'r Awdurdod Safonau Hysbysebu yn uniongyrchol.

Codi pryder gyda'r Awdurdod Safonau Hysbysebu

Pwy yw'r Awdurdod Safonau Hysbysebu?

Yr Awdurdod Safonau Hysbysebu (ASA) yw rheoleiddiwr rheng flaen annibynnol y DU ar gyfer hysbysebu ar draws pob cyfrwng, gan gynnwys hawliadau hysbysebwyr ar eu gwefannau a'u cyfrifon cyfryngau cymdeithasol eu hunain. Ei rôl yw sicrhau bod hysbysebion yn gyfreithlon, yn weddus, yn onest ac yn gywir trwy ymgymryd â phrosiectau rhagweithiol a thrwy weithredu ar gwynion i gymryd camau yn erbyn hysbysebion camarweiniol, niweidiol a sarhaus. Mae'r Awdurdod Safonau Hysbysebu yn gweinyddu ac yn gorfodi'r rheolau a nodir yng Nghod Hysbysebion nas Darlledir a Marchnata Uniongyrchol a Hyrwyddo y DU (Cod PAC).