o zone login
  1. You are at:
  2. Home
  3. Cymraeg
  4. Hyfforddi a chofrestru
  5. Fforwm myfyrwyr

Fforwm myfyrwyr

Rydyn ni eisiau gwrando ar farn myfyrwyr osteopathi ar ein gwaith, i lywio ein penderfyniadau ac i wneud yn siwr bod llais y myfyriwr yn cael ei adlewyrchu yn ein holl waith.

Fel myfyriwr, os penderfynwch chi ddod yn aelod o'r fforwm, byddwch yn derbyn:

  • Taleb £30 am bob cyfarfod 1.5 awr rydych chi'n ei fynychu (hyd at 4 cyfarfod y flwyddyn)
  • Cymorth a hyfforddiant dewisol i gymryd rhan mewn trafodaethau
  • Cyfleoedd i ymgysylltu â myfyrwyr darparwyr addysg eraill ac adeiladu’ch rhwydwaith proffesiynol
  • Cyfleoedd i ddysgu mwy am waith y rheoleiddiwr ac i lywio meddylfryd a barn y GOsC ar bolisïau a fydd yn effeithio ar fyfyrwyr ac osteopathiaid yn y dyfodol

Y cyfarfod nesaf

Mae cyfarfod cyntaf y fforwm wedi'i drefnu ar gyfer Hydref 2025 gyda ffocws ar sut y gall y GOsC gefnogi myfyrwyr wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer ymarfer ac unwaith y byddan nhw wedi ymuno â'r Gofrestr.

Os ydych chi'n mynychu'r cyfarfod cyntaf, does dim rhaid i chi ymrwymo i ymuno â'r fforwm am weddill y flwyddyn. Byddwn yn cysylltu â chi wedyn i weld a hoffech fynychu'r cyfarfod nesaf.

Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal ar-lein ac ni fydd yn para mwy na 90 munud. Cytunir ar yr union ddyddiad yn seiliedig ar argaeledd mynychwyr. Bydd myfyrwyr yn derbyn taleb o £30 i ddiolch am roi o’u hamser.

Mae croeso i bob myfyriwr ymuno. Rydyn ni am wneud yn siwr bod trafodaethau fforwm yn cael eu llywio gan ystod mor eang o hunaniaethau, cefndiroedd a nodweddion gwarchodedig â phosibl.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â'r cyfarfod cyntaf neu os hoffech wybod mwy, cysylltwch â ni ar: