o zone login
  1. You are at:
  2. Home
  3. Cymraeg
  4. Cysylltu â ni
  5. Sut i gysylltu â ni

Sut i gysylltu â ni

Os oes gennych chi unrhyw gwestiwn neu'ch bod am rannu barn a sylwadau, cysylltwch â ni. P'un ai'ch bod yn glaf, yn osteopath neu'n fyfyriwr, hoffem sicrhau eich bod chi'n cysylltu â'r person cywir a all eich helpu.

Os oes gennych chi ymholiadau penodol, gallwch ddod o hyd i'r bobl iawn i'ch helpu drwy ddefnyddio'r rhifau ffôn, cyfeiriadau e-bost a'r ffyrdd o gysylltu â ni isod.

Gallwch gysylltu â rhifau estyniad ffôn trwy ffonio ein prif linell: 020 7357 6655. Gadewch eich enw a'ch rhif os byddwch chi'n cyrraedd neges llais a byddwn yn gwneud ein gorau i’ch ffonio yn ôl o fewn un diwrnod gwaith. Dewiswch opsiwn 1 (Cymraeg) neu 2 (Saesneg) a deialu'r rhif estyniad gofynnol wedyn.

Chwilio am osteopath neu ymholiadau am gofrestriad osteopathiaid

I ddod o hyd i osteopath yn eich ardal neu wirio a yw osteopath wedi cofrestru gyda ni, gallwch chwilio drwy'n Cofrestr sy'n cael ei diweddaru bob dydd. Gallwch ddefnyddio'r Gofrestr i chwilio am osteopathiaid Cymraeg hefyd. Os yw eich ymholiad yn ymwneud â meysydd diddordeb osteopathiaid, er enghraifft os ydyn nhw'n ymarfer technegau penodol, nid ydym yn cadw'r wybodaeth hon yn anffodus - ond gallwch gysylltu ag osteopathiaid yn uniongyrchol a byddant yn falch o ateb eich cwestiynau.

info@osteopathy.org.uk   020 7357 6655 x242

Mynegi pryder am osteopath

Os hoffech fynegi pryder am osteopath sydd ar ein Cofrestr, mae gwybodaeth ar gael ar ein tudalen sut i godi pryder. Os na allwch chi ddod o hyd i’r wybodaeth angenrheidiol, cysylltwch â:

regulation@osteopathy.org.uk 020 7357 6655 x224

Ymholiadau cofrestru a DPP

Gall osteopathiaid a myfyrwyr blwyddyn olaf gael gafael ar wybodaeth am ddyddiadau cofrestru, dechrau a gorffen DPP, diweddaru manylion cyswllt, newid manylion Debyd Uniongyrchol a statws ymarfer trwy fewngofnodi i'r o zone. Mae adnoddau DPP defnyddiol gan gynnwys astudiaethau achos, canllawiau a thempledi er mwyn helpu osteopathiaid ar y dudalen DPP.

Os na allwch chi ddod o hyd i’r wybodaeth angenrheidiol, cysylltwch â: registration@osteopathy.org.uk neu student@osteopathy.org.uk neu ffoniwch x229 i gysylltu â'r adran gofrestru, a x238 ar gyfer ymholiadau DPP.

Ymholiadau moesegol a'r Safonau Ymarfer Osteopathi

Os ydych chi am drafod y Safonau Ymarfer Osteopathi a sut maen nhw'n berthnasol i ymarfer osteopathi, e-bostiwch standards@osteopathy.org.uk neu ffoniwch x274

Ymholiadau am y wefan ac o zone

Os ydych chi'n cael trafferth mewngofnodi i'r o zone, yr International Journal for Osteopathic Medicine, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau technegol am y Gofrestr ar-lein, e-bostiwch: webmanager@osteopathy.org.uk neu ffoniwch x242

Addysg ac astudio osteopatheg

Mae osteopathiaid yn astudio hyd at lefel gradd ac yn gorfod cwblhau cwrs hyfforddi sy'n cael ei gydnabod gan y GOsC cyn ymarfer yn y DU.

Os na allwch chi ddod o hyd i’r wybodaeth angenrheidiol uchod, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau neu sylwadau eraill am addysg osteopathi, e-bostiwch: education@osteopathy.org.uk neu ffoniwch x230 neu x240

Ymholiadau llywodraethu

Ar gyfer y Cyngor a phwyllgorau (gan gynnwys pob cyfarfod a busnes), y Prif Weithredwr a'r Cofrestrydd, staff, neu unrhyw gwynion am y sefydliad e-bostiwch: council@osteopathy.org.uk neu ffoniwch x246
 
Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth

Mae gennych hawl i ofyn am gopi o unrhyw wybodaeth bersonol sydd gan y GOsC amdanoch. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen rhyddid gwybodaeth. Os na allwch chi weld yr hyn rydych chi'n chwilio amdano uchod, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau eraill, e-bostiwch: foirequest@osteopathy.org.uk neu ffoniwch x242

Ymholiadau'r cyfryngau

Os oes gennych chi gwestiwn fel newyddiadurwr, e-bostiwch: pressoffice@osteopathy.org.uk neu ffoniwch  x245/x242

 

Sut i ddod o hyd i ni

Mae'r manylion cyswllt, map a chyfarwyddiadau ar sut i gyrraedd ein swyddfa yn ogystal â gwybodaeth am logi ystafell ar gael ar ein tudalen sut i ddod o hyd i ni.

Adborth a chwynion

Rydym bob amser yn ceisio darparu gwasanaeth defnyddiol, effeithiol ac effeithlon. Mae ein tudalen gwasanaeth cwsmeriaid yn esbonio mwy am ein nodau sy’n berthnasol i hyn.

Os hoffech ganmol eich profiad gyda ni neu os ydych chi'n anfodlon â'r gwasanaeth gawsoch chi, mae croeso i chi anfon adborth trwy e-bostio: info@osteopathy.org.uk

Ffurflen sylwadau

Gallwch gysylltu â ni drwy'r ffurflen isod hefyd. Rydym yn gwneud ein gorau i ymateb o fewn dau ddiwrnod gwaith. Mae meysydd gorfodol wedi'u marcio â seren (*).

Diolch am gysylltu.