o zone login
  1. You are at:
  2. Home
  3. Cymraeg
  4. Cysylltu â ni
  5. Sut i gysylltu â ni

Sut i gysylltu â ni

Isod, ceir rhywfaint o wybodaeth gyswllt ddefnyddiol gan gynnwys rhifau estyniad penodol sydd ar gael drwy ffonio: 020 7357 6655.

  • Dod o hyd i osteopath
  • mynegi pryder am osteopath
  • Ymholiadau cofrestru
  • Ymholiadau DPP
  • Ymholiadau a safonau moesegol
  • Gwefan/o zone
  • Astudio osteopathi
  • Addysg
  • Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth
  • Ymholiadau llywodraethu
  • Ymholiadau'r cyfryngau
  • Llogi ystafell
  • Ffurflen sylwadau

Dod o hyd i osteopath

I ddod o hyd i osteopath yn eich ardal neu i gadarnhau a yw osteopath wedi cofrestru gyda ni, gallwch chwilio drwy'n Cofrestr sy'n cael ei diweddaru bob dydd. Gallwch ddefnyddio'r Gofrestr i chwilio am osteopathiaid sy’n siarad Cymraeg hefyd. D.S.: nid oes gennym wybodaeth am feysydd diddordeb osteopathiaid, felly ni allwn ddweud, er enghraifft, a ydyn nhw'n ymarfer unrhyw dechnegau penodol.

info@osteopathy.org.uk estyniad 242

Mynegi pryder am osteopath

Help a chyngor ar fynegi pryder am rywun ar ein Cofrestr.

regulation@osteopathy.org.uk estyniad 224

Os hoffech chi fynegi pryder am osteopath, cysylltwch â ni'n uniongyrchol. Darllenwch ein tudalen 'mynegi pryder' i ddysgu mwy am ein proses bryderon.

Ymholiadau cofrestru

Mae osteopathiaid yn gallu cael gafael ar wybodaeth am eu dyddiad cofrestru, dyddiadau dechrau a gorffen DPP, diweddaru manylion cyswllt, newid manylion Debyd Uniongyrchol a statws ymarfer trwy fewngofnodi i'r o zone.

registration@osteopathy.org.uk estyniad 229 ac estyniad 256

Os ydych chi'n fyfyriwr osteopathig blwyddyn olaf sy'n dymuno dechrau'r broses gofrestru, mae rhagor o fanylion ar gael ar yr o zone.
student@osteopathy.org.uk estyniad 229 ac estyniad 256

Ymholiadau DPP

Mae adnoddau defnyddiol, astudiaethau achos, canllawiau a thempledi sy'n helpu i gefnogi osteopathiaid ar gael ar y wefan CPD.
registration@osteopathy.org.uk estyniad 238

Ymholiadau a safonau moesegol

Os ydych chi'n dymuno trafod y Safonau Ymarfer Osteopaethig a sut maen nhw'n berthnasol i ymarfer osteopathig, e-bostiwch standards@osteopathy.org.uk neu ffoniwch estyniad 240

Gwefan/o zone

Os ydych chi'n cael trafferth mewngofnodi i o zone, neu gyda'r International Journal for Osteopathic Medicine, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau technegol am y Gofrestr ar-lein, e-bostiwch:webmanager@osteopathy.org.uk neu ffoniwch estyniad 228

Astudio osteopathi

Mae osteopathiaid yn astudio i lefel gradd ac er mwyn ymarfer yn y DU rhaid eich bod wedi cwblhau cwrs hyfforddi sy'n cael ei gydnabod gan y GOsC.
Os na allwch ddod o hyd i'r hyn rydych chi'n chwilio amdano, e-bostiwch: education@osteopathy.org.uk neu ffoniwch estyniad 230, estyniad 240

Addysg

Fel rhan o'n proses gymeradwyo a sicrhau ansawdd darparwyr a rhaglenni addysg, mae'n ofynnol i bob darparwr ddangos sut mae'n bodloni ein gofynion.

Os na allwch ddod o hyd i'r hyn rydych chi'n chwilio amdano, e-bostiwch: education@osteopathy.org.uk neu ffoniwch estyniad 230 a 240

Ceisiadau rhyddid gwybodaeth

Ein nod yw anfon ymateb llawn o fewn 20 diwrnod gwaith ar ôl derbyn cais. Os yw'r cais yn gymhleth, efallai y bydd angen mwy o amser arnom i ymchwilio iddo. Os felly, byddwn yn ysgrifennu atoch o fewn 20 diwrnod gwaith i ddweud wrthych pam y bu oedi a phryd rydym yn disgwyl rhoi ateb llawn i chi.

foirequests@osteopathy.org.uk estyniad 242

Ymholiadau llywodraethu

Cyngor a phwyllgorau (gan gynnwys pob cyfarfod a busnes), Prif Weithredwr a Chofrestrydd, staff, unrhyw gwynion am y sefydliad
council@osteopathy.org.uk estyniad 246

Ymholiadau'r cyfryngau

Os oes gennych chi ymholiad fel newyddiadurwr
pressoffice@osteopathy.org.uk estyniad 245

Llogi ystafell

Mae gennym dair ystafell i’w llogi yn ein swyddfeydd yn Llundain ger Tower Bridge.
facilities@osteopathy.org.uk estyniad 253

Ffurflen sylwadau

Efallai y byddai'n well gennych gysylltu â ni gan ddefnyddio'r ffurflen hon. Ar ôl ei llenwi, anfonwch hi atom trwy glicio ar y botwm ar waelod y ffurflen. Ein nod yw ymateb o fewn 10 diwrnod gwaith. Rhaid llenwi pob maes sydd wedi’i farcio â seren (*).

Diolch am gysylltu.

Os na allwch chi ddod o hyd i'r hyn roeddech chi'n chwilio amdano ar y wefan hon, trïwch y blwch chwilio neu ewch i fap y wefan.