Gwybodaeth i'r cyhoedd a chleifion am gofrestru
Rydym yn cynhyrchu gwybodaeth i'r cyhoedd yn Gymraeg a Saesneg, gan gynnwys fersiynau Cymraeg o ddeunyddiau y gall osteopathiaid eu defnyddio i hyrwyddo eu cofrestriad i'r cyhoedd ac i gleifion.
Posteri: 'Rwyf wedi Cofrestru' a 'Rydym wedi Cofrestru'
Mae'r posteri hyn yn hyrwyddo statws osteopathiaid fel gweithwyr iechyd proffesiynol cofrestredig ac yn pwysleisio manteision hyn i gleifion. Gall osteopathiaid arddangos y posteri hyn yn eu clinigau, ystafelloedd aros ac ardaloedd cyhoeddus addas eraill.
Mae'r poster ar gael mewn dau fformat – un i'w ddefnyddio gan osteopath unigol, ac un i'w ddefnyddio gan bractis grwp.
Lawrlwythwch y posteri hyn o'r o zone.
Marciau Cofrestru
Mae'r Marciau GOsC 'Rwyf wedi Cofrestru' a 'Rydym wedi Cofrestru' yn nodau masnach sydd wedi'u cofrestru i'r GOsC, ac mae ganddyn nhw delerau defnyddio penodol. Mae angen i osteopathiaid wneud cais am y Marc, a chytuno i'r telerau defnyddio ar yr o zone.
Gall Osteopathiaid wneud cais am Farc 'Rwyf wedi Cofrestru' personol a fydd yn cynnwys eu rhif cofrestru GOsC unigryw, fel bod aelodau'r cyhoedd a chleifion yn gallu chwilio drwy'n Cofrestr yn hawdd i wirio cofrestriad yr osteopath.
Gall practisau arddangos y Marc Cofrestru cyffredinol ar ddeunydd ysgrifennu a gwefannau a rennir.
Os ydych chi'n osteopath, ewch i'r o zone i wneud cais am eich marciau cofrestru.