o zone login
  1. You are at:
  2. Home
  3. Cymraeg
  4. Adnoddau a chyhoeddiadau
  5. Addasrwydd myfyrwyr i ymarfer

Addasrwydd myfyrwyr i ymarfer

Rydym yn cyhoeddi canllawiau i fyfyrwyr sy'n amlinellu'r ymddygiad proffesiynol a ddisgwylir gan fyfyrwyr osteopathi, yn ogystal â rôl darparwyr addysg o ran addasrwydd i ymarfer a diogelwch cleifion.

Darllenwch ein canllawiau ar ymddygiad proffesiynol ac addasrwydd i ymarfer ar gyfer myfyrwyr osteopathig

Darllenwch ein canllawiau ar gyfer ymgeiswyr a myfyrwyr ag anabledd neu gyflwr iechyd

Cymeriad da

Rydyn ni’n defnyddio ein Fframwaith Asesu Cymeriad Da i benderfynu a yw myfyriwr o gymeriad da ac felly y gall ymuno â'r Gofrestr unwaith y bydd wedi graddio. Fel rhan o'r asesiad hwn, rydyn ni’n dilyn y prawf a nodwyd gan yr Awdurdod Safonau Proffesiynol, sy'n gofyn am dystiolaeth bod person wedi ymddwyn, neu y gallai fod perygl iddo ymddwyn yn y dyfodol:

  • yn y fath fodd sy'n peryglu iechyd, diogelwch neu lesiant claf neu aelod arall o'r cyhoedd
  • yn y fath fodd fel y byddai eu cofrestriad yn tanseilio hyder y cyhoedd yn y proffesiwn
  • yn y fath fodd sy'n dangos amharodrwydd i weithredu yn unol â safonau'r proffesiwn
  • mewn ffordd anonest

Darllenwch ein Fframwaith Asesu Cymeriad Da