Cwynion yn erbyn aelodau'r Cyngor
Mae'r Cyngor Osteopathig Cyffredinol wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth hygyrch, ymatebol a thryloyw o'r radd flaenaf.
Bydd unrhyw gwynion neu bryderon am aelodau'r Cyngor neu ei bwyllgorau, gan gynnwys aelodau cyfetholedig, yn cael eu hymchwilio'n llawn a bydd camau priodol yn cael eu cymryd.
Bydd pryderon a chwynion sy'n cael eu cyflwyno yn y Gymraeg yn cael eu trin a'u hateb yn Gymraeg.
Y camau cyntaf
Lle bynnag y bo modd, dylech godi'ch pryderon neu gwynion gyda'r aelod o'r Cyngor neu'r pwyllgor yn y lle cyntaf. Os yw hyn yn ymddangos yn amhriodol, neu os yw'n amhosibl datrys y gwyn, dilynwch y weithdrefn gwyno ffurfiol.
Gwneud cwyn
Mae'r weithdrefn gwyno hon i’w gweld yn ein taflen gwneud cwyn am Aelod o'r Strwythur Llywodraethu, sy'n cynnwys aelodau'r Cyngor ac aelodau pwyllgor. Efallai yr hoffech droi at God Ymddygiad y Cyngor hefyd. Os hoffech wneud cwyn ffurfiol, bydd angen llenwi ffurflen gwyno a'i hanfon atom.
Rhagor o wybodaeth
Hefyd, gallwch gysylltu â'r Cyngor a'r Swyddog Cymorth Gweithredol yn council@osteopathy.org.uk i gael rhagor o wybodaeth.
Cwynion eraill
Mae trefn debyg yn bodoli ar gyfer cwynion am y GOsC. Trowch i'r adran Ein perfformiad am fwy o fanylion.