Safonau’r Gymraeg
Mae gan y Cyngor Osteopathig Cyffredinol (GOsC) ddyletswydd gyfreithiol i gydymffurfio â Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 8) 2022. Rydym wedi ymrwymo i beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg fel rhan o'n cydymffurfiaeth â'r dyletswyddau cyfreithiol hyn.
Rydym yn cydnabod pwysigrwydd y Gymraeg ac yn ceisio hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg ar draws ein gwasanaethau. Dysgwch fwy am y safonau yn ein datganiad cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg.
Adrodd iad Blynyddol Safonau'r Gymraeg
Fel rhan o’n dyletswydd i gydymffurfio â’r safonau, rydym yn cyhoeddi Adroddiad Blynyddol i Gomisiynydd y Gymraeg sy’n amlinellu:
- Nifer y cwynion a gawsom yn ymwneud â'n cydymffurfiaeth â'r safonau.
- Nifer y gweithwyr GOsC sydd â sgiliau Cymraeg.
- Nifer y swyddi newydd a gwag y gwnaethom recriwtio ar eu cyfer, lle'r oedd sgiliau Cymraeg naill ai'n hanfodol, yn ddymunol, neu ddim yn angenrheidiol.
Darllenwch ein Hadroddiad Blynyddol i Gomisiynydd y Gymraeg 2023-24
Ein gweithdrefn cwynion Cymraeg
Os hoffech chi wneud cwyn am ein cydymffurfiaeth â Safonau'r Gymraeg, dilynwch y drefn isod. Mae ein gweithdrefn wedi'i chynnwys ochr yn ochr â'r safonau hefyd yn ein hysbysiad cydymffurfio.
Sut i gwyno
Anfonwch eich cwyn atom yn ysgrifenedig drwy'r post neu drwy e-bost. Gallwch gyflwyno eich cwyn yn Gymraeg neu yn Saesneg. Dylid cyfeirio eich cwyn at y Prif Weithredwr a'r Cofrestrydd yn:
General Osteopathic Council
Osteopathy House
176 Tower Bridge Road
London SE1 3RL
Neu anfonwch e-bost atom: welshlanguage@osteopathy.org.uk
Er mwyn ein helpu i brosesu'ch cwyn yn gyflym, rhowch y canlynol:
- Disgrifiad clir o'r gwyn a pha gamau yr hoffech i ni eu cymryd
- Eich cyfeiriad post llawn, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost.
Dylech dynnu ein sylw at gwynion cyn gynted â phosibl ac o fewn 12 mis i'r digwyddiad dan sylw.
Beth allwch ei ddisgwyl gennym ni
Bydd y GOsC yn:
- Cydnabod derbyn eich cwyn o fewn 5 diwrnod gwaith.
- Trefnu i'r gwyn gael ei hymchwilio'n llawn.
- Rhoi gwybod i chi am gynnydd.
- Anfon ateb llawn o fewn 21 diwrnod gwaith. Os nad yw hyn yn bosibl, byddwn yn esbonio pam ac yn eich hysbysu erbyn pryd y gallwch ddisgwyl ateb llawn.
Os nad ydych chi'n fodlon â'n hymateb
Os nad ydych chi'n fodlon â'r ymateb a gewch, gallwch ofyn i Gadeirydd y Cyngor adolygu'r mater. Mae'r Cadeirydd yn berson a benodir yn annibynnol sy'n goruchwylio strwythur llywodraethu'r GOsC. Ysgrifennwch, gan nodi pam eich bod yn parhau'n anfodlon â'r canlyniad, i:
Chair of Council
General Osteopathic Council
Osteopathy House
176 Tower Bridge Road
London SE1 3RL
Ar ôl derbyn y llythyr, bydd y Cadeirydd yn sicrhau ein bod yn:
- Cydnabod derbyn eich cwyn o fewn pum diwrnod gwaith.
- Trefnu i'r gwyn gael ei hymchwilio'n llawn.
- Rhoi gwybod i chi am gynnydd.
- Anfon ateb llawn o fewn 21 diwrnod gwaith. Os nad yw hyn yn bosibl, byddwn yn esbonio pam ac yn eich hysbysu erbyn pryd y gallwch ddisgwyl ateb llawn.