Cysylltu â ni
P'un ai'ch bod yn cysylltu â ni fel claf, aelod o'r cyhoedd, osteopath neu weithiwr iechyd proffesiynol arall, ein nod yw darparu gwasanaeth o'r radd flaenaf i chi.
Gallwch gysylltu â ni i wneud ymholiad neu fynegi pryder am osteopath neu aelod o'r Cyngor neu ein Pwyllgorau, neu fynegi pryder am y GOsC fel sefydliad. Os byddwch yn cysylltu â ni drwy e-bost neu'r post yn Gymraeg, byddwn yn ymateb yn Gymraeg.
Ein nod yw ateb llythyrau o fewn 10 diwrnod gwaith a negeseuon e-bost o fewn 5 diwrnod gwaith. Os na allwn ni roi ateb llawn i chi yn yr amser hwnnw, byddwn yn dweud wrthych pryd y gallwch ddisgwyl ateb a gan pwy, ac yn rhoi gwybod i chi am gynnydd.
Yn anffodus, os ydych yn cysylltu â ni dros y ffôn ni allwn siarad â chi'n Gymraeg ar hyn o bryd gan nad oes gennym aelod o staff sy'n siarad Cymraeg. Yn hytrach, byddwch yn clywed llais Cymraeg awtomataidd, yn gofyn i chi gysylltu â ni drwy'r post neu e-bost yn Gymraeg, fel y gallwn ymateb i chi yn Gymraeg.
Rhagor o fanylion am sut i gysylltu â ni.
Rhoi adborth i ni
Rydym yn awyddus i glywed eich barn a'ch sylwadau, felly cysylltwch â ni. Mae croeso mawr i'ch ymholiadau hefyd.
Hoffem glywed gennych hefyd os ydych chi'n anfodlon â'r gwasanaeth a gawsoch neu os nad oedd ein ffordd o ymdrin â'ch ymholiad wedi bodloni'ch disgwyliadau. Dan yr amgylchiadau hyn, byddem yn eich annog chi i godi pryderon yn uniongyrchol gyda'r aelod o staff y buoch chi'n ymwneud ag ef/hi, neu ei reolwr, os oes modd.
Os yw hyn yn ymddangos yn amhriodol neu os yw'n amhosibl dod i benderfyniad, rydym yn cynnig gweithdrefn gwyno ffurfiol. Mae'r daflen Gwneud cwyn am y GOsC yn esbonio hyn, ac mae'n cynnwys ffurflen gwyno i'w defnyddio os ydych chi am anfon cwyn.
Os ydych chi angen mwy o wybodaeth, e-bostiwch corporatecomplaints@osteopathy.org.uk. Hefyd, gallwch ffonio swyddfa’r Prif Weithredwr a'r Cofrestrydd i siarad â rhywun yn Saesneg ar 020 7357 6655 estyniad 246.
Cysylltu â ni am y Gymraeg
Os oes gennych gwestiynau, pryderon neu adborth ar sut rydym yn defnyddio'r Gymraeg neu'n cynnig mynediad i'r Gymraeg, e-bostiwch welshlanguage@osteopathy.org.uk
Os byddwch chi'n ysgrifennu atom yn Gymraeg, fe gewch chi ymateb ysgrifenedig yn Gymraeg.
Gallwch ysgrifennu atom yn:
General Osteopathic Council
Osteopathy House
176 Tower Bridge Road
London SE1 3RL
I wneud cwyn am ein defnydd o'r Gymraeg, neu i wybod mwy am Safonau'r Gymraeg rydyn ni'n eu dilyn, ewch i'n tudalen ar Safonau'r Gymraeg.