Ein proses pryderon
Rhan bwysig o'n gwaith yw ymdrin â phryderon a godir am osteopathiaid er mwyn cynnal diogelwch cleifion a hyder y cyhoedd yn y proffesiwn osteopathig.
Sgrinio pryder
Pan fyddwn ni'n derbyn pryder, rydym yn ystyried a oes gennym ddigon o wybodaeth i anfon hyn at osteopath annibynnol (a elwir yn 'sgriniwr') a fydd wedyn yn adolygu'r pryder(on) i ystyried a all y Cyngor Osteopathig Cyffredinol (GOsC) ymchwilio.
Weithiau efallai y bydd angen i ni gasglu mwy o wybodaeth cyn i ni benderfynu bod gennym ddigon o fanylion i'w hanfon at sgriniwr. Gall siaradwyr Cymraeg ddewis cyflwyno eu gwybodaeth i ni yn Gymraeg, ac os felly byddwn yn ceisio adolygu'r wybodaeth heb oedi ychwanegol.
Mae sgrinwyr yn defnyddio ein canllawiau ar feini prawf trothwy ar ymddygiad proffesiynol annerbyniol i wneud eu penderfyniadau. Mae'r canllawiau'n rhestru rhai o'r mathau o bryderon na fyddent yn cael eu hymchwilio fel arfer am na fyddent yn gyfystyr ag ymddygiad proffesiynol annerbyniol. Gall y sgriniwr gyfeirio at ein Gweithdrefn Cau Cychwynnol a'n Canllawiau ar gyfer Sgrinwyr hefyd.
Mewn rhai achosion, byddwn yn cysylltu â'r person a gododd y pryder i ofyn am wybodaeth bellach er mwyn helpu'r sgriniwr i wneud penderfyniad gwybodus. Mae modd cyflwyno'r wybodaeth hon yn Gymraeg hefyd.
Oni bai bod pryder wedi cau o dan y Weithdrefn Cau Cychwynnol, ni fydd y sgriniwr yn cau pryder heb siarad ag aelod lleyg o'r Cyngor (sef aelod o'n Cyngor nad yw'n osteopath).
Os na allwn ni ymdrin â'ch pryder
Os ydyn ni'n gweld na allwn ni ymdrin â'ch pryder, byddwn yn cysylltu â chi i ddweud pam. Os ydych chi'n siarad Cymraeg ac wedi cysylltu â ni yn Gymraeg am eich pryder, byddwn yn ymateb yn Gymraeg yn ysgrifenedig, naill ai drwy'r post neu drwy e-bost. Ein nod yw gwneud hyn o fewn 10 diwrnod gwaith o'r dyddiad wnaethoch chi gyflwyno eich pryder i ni.
Efallai nad yw eich honiadau’n gyfystyr â thorri safonau proffesiynol, am nad ydynt yn berthnasol i waith yr osteopath, neu ei bod yn annhebygol y bydd yna ddigon o dystiolaeth i gefnogi'r pryder.
Ymchwilio i bryder
Ar ôl i ni ddechrau ymchwilio i bryder, byddwn yn cysylltu â'r osteopath rydych wedi cwyno amdano fel arfer, ac yn gofyn am ei ymateb i'r pryder. Efallai y bydd angen i ni gymryd datganiad tyst gennych chi am eich pryder, a byddwn yn cysylltu â chi i drafod hyn. Cofiwch, gallwch gyflwyno eich datganiad tyst i ni yn Gymraeg.
Efallai y bydd angen i ni ofyn am wybodaeth gan bobl eraill fel rhan o'r ymchwiliad hefyd. Er enghraifft, os yw'ch pryder yn ymwneud â'ch cyflwr meddygol, efallai y bydd angen i ni weld copïau o'ch cofnodion meddygol gan ymarferwyr eraill, fel eich meddyg.
Yna, byddwn yn gofyn i'n Pwyllgor Ymchwilio edrych ar yr holl wybodaeth a gasglwyd. Mae'r pwyllgor hwn yn cynnwys osteopathiaid ac aelodau lleyg (nad ydynt yn osteopathiaid) ac yn cael ei gadeirio gan berson lleyg. Efallai y byddan nhw'n gofyn am fwy o wybodaeth gennych chi, yr osteopath neu bobl eraill, fel eich meddyg.
Bydd y pwyllgor yn penderfynu a yw'r holl wybodaeth sydd wedi’i chasglu yn cefnogi eich pryder ac a fyddai'r honiadau yn gyfystyr ag unrhyw un o'r canlynol:
- ymddygiad proffesiynol annerbyniol
- anallu proffesiynol
- euogfarn droseddol yn y DU sy'n berthnasol i waith yr osteopath
- cyflwr meddygol sy'n effeithio'n ddifrifol ar allu'r osteopath i ymarfer
Os yw'r Pwyllgor Ymchwilio’n credu nad yw'r pryder yn awgrymu unrhyw un o'r rhain, byddant yn dod i’r casgliad nad oes achos i'w ateb ac ni fyddant yn ystyried y pryder mwyach. Byddwn yn cysylltu â chi i ddweud wrthych pam y daeth y pwyllgor i'r penderfyniad hwn.
Os bydd y pwyllgor yn dod i’r casgliad bod achos i'w ateb, byddwn yn trefnu gwrandawiad cyhoeddus ac yn cyfarwyddo ein cyfreithwyr i baratoi'r achos yn erbyn yr osteopath.
Bydd Canllawiau ar Benderfyniadau'r Pwyllgor Ymchwilio a'r canllawiau ar y meini prawf trothwy ar gyfer ymddygiad proffesiynol annerbyniol yn helpu'r Pwyllgor Ymchwilio i benderfynu a oes gan yr osteopath achos i'w ateb.
Defnyddio'r Gymraeg yn ystod ein hymchwiliad
Bydd sawl pwynt yn ystod ymchwiliad lle bydd angen i ni gysylltu â'r sawl fynegodd bryder am osteopath. Fel arfer, byddwn yn gwneud hyn er mwyn casglu gwybodaeth bellach, gan gynnwys cyfweliad tyst. Cynhelir y cyfweliad tyst i'n helpu i ddarparu eich datganiad tyst i'r osteopath a'r Pwyllgor Ymchwilio.
Os hoffech chi ddarparu eich cyfweliad tyst yn Gymraeg, byddwn yn cyflogi cyfieithydd Cymraeg i ddod i'r cyfarfod cyfweld a'ch cynorthwyo i ddarparu eich tystiolaeth. Bydd y cyfieithydd wedi llofnodi cytundeb cyfrinachedd llym er mwyn diogelu eich preifatrwydd.
Mae'n bwysig eich bod chi'n teimlo'n fodlon â'ch datganiad tyst. Yn dilyn y cyfweliad, byddwn yn anfon eich datganiad atoch yn ysgrifenedig. Os ydych chi'n siarad Cymraeg, gallwch ofyn i ni anfon hyn atoch yn Gymraeg. Unwaith y byddwch wedi gwirio'r datganiad, gallwch roi gwybod i ni, yn Gymraeg (os dymunwch), a ydych chi'n hapus gyda'ch datganiad.
Gorchmynion atal dros dro
Gall y Pwyllgorau Ymchwilio, Ymddygiad Proffesiynol neu Iechyd benderfynu atal cofrestriad osteopath (gosod gorchymyn atal dros dro) os yw hynny'n cael ei ystyried yn angenrheidiol er mwyn amddiffyn cleifion ac aelodau'r cyhoedd yn ystod ymchwiliad. Mae pwyllgorau addasrwydd i ymarfer yn defnyddio'r Canllawiau ar Osod Gorchmynion Atal Dros Dro, wrth ystyried a ddylid gosod gorchymyn atal dros dro. Gall y Pwyllgor Ymddygiad Proffesiynol a'r Pwyllgor Iechyd benderfynu gosod gorchymyn atal dros dro hefyd wrth ddisgwyl am apêl yn erbyn penderfyniad.
Gorffen achos heb wrandawiad (Rheol 8)
Mewn rhai amgylchiadau, gall achosion y mae'r Pwyllgor Ymchwilio wedi’u cyfeirio at y Pwyllgor Ymddygiad Proffesiynol ddod i ben heb wrandawiad. Mae'r weithdrefn ar gyfer ymdrin â'r mathau hyn o achosion i’w gweld yn Rheol 8 Rheolau'r Cyngor Osteopathig Cyffredinol (Pwyllgor Ymddygiad Proffesiynol) (Gweithdrefn). Dim ond os yw'r achos yn bodloni meini prawf penodol y bydd y Pwyllgor Ymddygiad Proffesiynol yn ystyried defnyddio'r weithdrefn hon, ac os yw'r Pwyllgor o'r farn y byddai cosb o gerydd yn briodol.
Cyn penderfynu a ddylid defnyddio'r weithdrefn ai peidio, bydd y Pwyllgor Ymddygiad Proffesiynol yn ystyried barn yr achwynydd a'r osteopath. Rhaid i'r osteopath gytuno y gellir ystyried yr achos heb wrandawiad, a rhaid iddo fod yn barod i dderbyn y ffeithiau a'r honiadau yn ei erbyn yn llawn. Bydd penderfyniad y Pwyllgor yn cael ei gyhoeddi ar wefan y GOsC yn y ffordd arferol.
I gael rhagor o wybodaeth am hyn a'r meini prawf ar gyfer gwaredu achos dan Reol 8, a'r gweithdrefnau dan sylw, gweler Nodyn Ymarfer PCC - Gwaredu Cydsyniol: Rheol 8.
Y Pwyllgor Iechyd
Caiff pryderon am iechyd meddwl neu gorfforol osteopath eu trosglwyddo i'r Pwyllgor Iechyd, sy'n cynnwys osteopathiaid a rhai nad ydynt yn osteopathiaid ac o leiaf un ymarferydd meddygol cofrestredig. Gall y pwyllgor hwn edrych ar achosion heb gael gwrandawiad. Mae'n cyfarfod yn breifat oherwydd bod yn rhaid iddo ystyried cyflwr meddygol osteopath.
Os oes pryderon difrifol am iechyd yr osteopath, efallai y bydd y pwyllgor yn gofyn i'r osteopath fodloni rhai amodau. Mae Canllawiau i'r Pwyllgor Iechyd ar Lunio Gorchmynion Amodau Ymarfer ar gael i helpu'r pwyllgor os yw'n penderfynu gosod Amodau Ymarfer. Hefyd, gall y pwyllgor atal yr osteopath rhag gweithio am amser penodol trwy atal ei gofrestriad.