
Croeso i wefan y Cyngor Osteopathig Cyffredinol. Cewch wybodaeth gryno amdanom ni a’n gwaith trwy gyfrwng y Gymraeg ar y dudalen hon.
Mae hefyd yn egluro beth yw osteopathi, yn dangos sut i ddod o hyd i osteopath ac yn egluro sut i roi gwybod i ni os oes gennych unrhyw bryderon neu gwynion ynglŷn â thriniaeth osteopathig. Mae ein Cynllun Iaith Gymraeg ar gael isod, ynghyd â’n manylion cyswllt i gael rhagor o wybodaeth.
Mae’r Cyngor Osteopathig Cyffredinol (y Cyngor) yn rheoleiddio ymarfer osteopathig yn y Deyrnas Unedig. Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i osteopathiaid gofrestru gyda’r Cyngor Osteopathig Cyffredinol i ymarfer yn y DU.
Rydym yn gweithio gyda’r cyhoedd a chydag osteopathiaid i hybu diogelwch cleifion trwy gofrestru gweithwyr proffesiynol cymwys. Rydym hefyd yn gosod, yn cynnal ac yn datblygu safonau ar gyfer ymarfer ac ymddygiad osteopathig.
Rydym yn cadw Cofrestr osteopathiaid, sef cyfeirlyfr cyflawn o’r holl osteopathiaid sydd â hawl i ymarfer yn y DU. Gallwch ddefnyddio’r Gofrestr osteopathiaid i ddod o hyd i osteopath yn lleol.
System o ddiagnosis a thriniaeth ar gyfer amrywiaeth eang o gyflyrau meddygol yw osteopathi. Mae’n gweithio gyda strwythur a gweithrediad y corff, ac mae’n seiliedig ar yr egwyddor bod lles unigolyn yn dibynnu ar y sgerbwd, y cyhyrau, gewynnau a meinweoedd cysylltiol yn gweithredu’n effeithiol gyda’i gilydd.
Ym marn yr osteopath, rhaid i strwythur y corff weithio’n iawn os yw’r corff ei hun yn mynd i weithio’n iawn. Felly, mae’r osteopath yn gweithio i adfer y corff i gyflwr cytbwys, gan wneud hynny heb ddefnyddio cyffuriau neu lawdriniaeth lle bo modd. Mae’r osteopath yn defnyddio dulliau cyffwrdd, trin, ymestyn a thylino’r corff i wella symudedd cymalau, lleddfu tensiwn yn y cyhyrau, gwella’r cyflenwad gwaed a nerfau i feinweoedd, a helpu systemau iacháu naturiol y corff ei hun. Gall hefyd gynnig cyngor ar osgo ac ymarfer corff sy’n helpu rhywun i wella, cyngor ar hybu iechyd ac ar rwystro symptomau rhag dychwelyd.
Ymhlith y cleifion amrywiol sy’n mynd at osteopath mae pobl ifanc, pobl hŷn, gweithwyr llaw, gweithwyr swyddfa proffesiynol, menywod beichiog, plant a phobl sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon. Gall cleifion fynd at osteopath i gael triniaeth ar gyfer amrywiaeth eang o gyflyrau, gan gynnwys poen cefn, anaf straen ailadroddus, newid i osgo yn ystod beichiogrwydd, problemau osgo yn sgil straen gyrru neu waith, poen arthritis a mân anafiadau chwaraeon.
Gallwch ddefnyddio Cofrestr osteopathiaid, y wefan hon i ddod o hyd i osteopath yn lleol neu i gadarnhau bod rhywun wedi’i gofrestru fel osteopath.
Gallwch chwilio am osteopath yn ôl ei enw, cod post, tref, sir neu wlad. Pan fydd gennych restr o ganlyniadau chwilio a manylion cyswllt, gallwch ddewis practisau sy’n cynnig ymweliadau cartref neu sydd â mynediad i bobl anabl trwy glicio ar y geiriau 'Cliciwch yma i hidlo’ch canlyniadau' ac wedyn clicio ar y bocs priodol.
Ar ôl clicio ar enw osteopath yn y canlyniadau chwilio, bydd ffenestr naid yn agor ar y sgrin gyda manylion yr ymarferydd, gan gynnwys ei rif cofrestru, blwyddyn cofrestru a’i fanylion cyswllt personol.
Os yw osteopath wedi wynebu achos o addasrwydd i ymarfer ac wedi’i atal dros dro o’r Gofrestr (pan na ddylai fod yn ymarfer) neu os yw’n cael ymarfer o dan amodau penodol yn unig, cofnodir hynny yn goch wrth ymyl ei enw ar y gofrestr. Bydd ffenestr naid y manylion personol yn cynnwys dolen i ganlyniadau’r gwrandawiad addasrwydd i ymarfer.
Sefydlwyd y Cyngor Osteopathig Cyffredinol (y Cyngor) gan Ddeddf Osteopathiaid 1993 i ddarparu ar gyfer rheoleiddio’r proffesiwn osteopathi.
Ar hyn o bryd mae ddwy ddogfen yn amlinellu’r safonau gofynnol ar gyfer osteopathiaid er mwyn sicrhau gofal o safon i gleifion a’u hamddiffyn rhag niwed: Safon 2000 – Safon Hyfedredd a’r Cod Ymarfer.
Bydd y Safonau Ymarfer Osteopathig newydd a ddaw i rym ar 1 Medi 2012 yn cynnwys fersiynau diwygiedig o’r Cod Ymarfer a’r Safon Hyfedredd. Mae’r Safonau Ymarfer Osteopathig yn nodi’r gofynion ar gyfer osteopathiaid o 1 Medi 2012 ymlaen.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n tudalen Safonau hyfforddiant ac ymarfer.
Mae’r teitl ‘osteopath’ wedi’i ddiogelu gan y gyfraith, a dim ond y rhai sydd ar Gofrestr Statudol y DU sydd â’r hawl i ymarfer. Mae ymarfer heb gofrestru yn drosedd, a byddwn yn erlyn unrhyw unigolyn sy’n ymarfer fel osteopath heb gofrestru gyda’r Cyngor yn gyntaf. Os ydych chi’n meddwl bod rhywun yn ei ddisgrifio ei hun fel osteopath heb gofrestru gyda ni, gallwch roi gwybod i’r Adran Reoleiddio drwy anfon e-bost i regulation@osteopathy.org.uk; ffonio 020 7357 6655 estyniad 224 neu 249; neu ysgrifennu at:
Regulation Department
General Osteopathic Council
Osteopathy House
176 Tower Bridge Road
London SE1 3LU
Mae’r Gofrestr yn cael ei chadw gan y Cyngor ac mae’n cynnwys gwybodaeth fanwl am osteopathiaid cymwys. Mae ar gael i’r cyhoedd ar-lein neu drwy wasanaeth gwybodaeth ffôn y Cyngor.
Mae’n rhaid i osteopath sydd wedi cymhwyso yn y DU neu dramor fodloni gofynion penodol er mwyn cofrestru gyda’r Cyngor. I gael mwy o wybodaeth am y gofynion hyn, ewch i Sut i fod yn osteopath.
Mae’n rhaid i osteopathiaid adnewyddu eu trwydded i ymarfer bob blwyddyn. Fel rhan o’r broses hon, rydym yn cadarnhau bod ganddynt yswiriant indemniad proffesiynol cyfredol, bod eu iechyd a’u cymeriad yn parhau’n dda a’u bod wedi bodloni gofynion gorfodol datblygiad proffesiynol parhaus.
Rydym yn datblygu cynllun ailddilysu a fydd yn gorfodi osteopathiaid i ddangos yn rheolaidd eu bod yn addas i ymarfer a bod ganddynt yr holl wybodaeth ddiweddaraf am y maes. Bydd hyn yn rhoi sicrwydd ychwanegol i gleifion bod eu gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn parhau i fodloni safonau’r proffesiwn.
Mae cynllun ailddilysu drafft yn cael ei dreialu tan fis Hydref 2012. Byddwn yn defnyddio canlyniadau’r cynllun peilot a chanlyniadau proses ymgynghori yn y dyfodol fel sylfaen i gyflwyno ailddilysu yn 2014. Fodd bynnag, gan fod hwn yn brosiect mawr a chymhleth, mae’n rhaid i ni fod yn drylwyr iawn er mwyn sicrhau bod y cynllun yn diwallu anghenion osteopathiaid a chleifion, ac felly bydd yr amserlenni’n hyblyg. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’r adran ailddilysu.
Mae’n rhaid i gyrsiau osteopathi gael eu hachredu fel cyrsiau Cymhwyster Cydnabyddedig gan y Cyngor a’u dilysu gan brifysgolion y DU. Mae’r Cyngor wedi cydweithio â’r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch, Cymdeithas Osteopathi Prydain, a’r sefydliadau addysg osteopathi i ddatblygu Datganiad Meincnod Osteopathi, sy’n amlinellu’r safonau gofynnol manwl ar gyfer hyfforddiant osteopathig. Rydym yn gweithio’n agos â’r sefydliadau addysg sy’n hyfforddi osteopathiaid er mwyn datblygu ymarfer gorau ym meysydd addysg, hyfforddiant a gofal osteopathig.
Gall cleifion droi at y Cyngor os oes ganddynt bryderon neu gwynion am ofal osteopathig. Os yw claf yn pryderu am gymhwysedd neu ymddygiad proffesiynol osteopath ac yn methu datrys y broblem yn foddhaol gyda’r osteopath, byddwn yn rhoi cyngor ar y camau nesaf i’w cymryd o dan weithdrefn gwyno ffurfiol.
Mae ymdrin â phryderon a chwynion am osteopathiaid gan gleifion, osteopathiaid neu weithwyr iechyd proffesiynol eraill yn elfen bwysig o’n gwaith. Mae’n rhaid i bob osteopath sy’n gweithio yn y DU gofrestru gyda ni a dilyn ein Cod Ymarfer a bodloni safonau’r Safon Hyfedredd.
Os ydych yn glaf sy’n poeni am y driniaeth a gawsoch neu am ymddygiad osteopath, y man cychwyn gan amlaf yw siarad â’r unigolyn a oedd yn gyfrifol am y driniaeth yn y lle cyntaf. Mae pryderon llawer o gleifion yn deillio o gamddealltwriaeth, ac yn aml iawn mae trafod pryderon gyda’r osteopath yn gyntaf yn fuddiol.
Pe byddai’n well gennych beidio â gwneud hyn, efallai gallwch drafod y mater ag osteopath arall yn y practis. Gofynnwch am bolisi cwyno’r practis. Os nad oes neb arall yn gweithio yn y practis, mae’n bosibl y bydd osteopath arall yn gallu cynnig ei farn. Bydd y rhan fwyaf yn fwy na pharod i’ch helpu.
Os ydych yn anfodlon â’r ymateb i’ch pryderon, neu os ydych am wneud cwyn ffurfiol, dylech gysylltu â ni. Rydym yma i’ch helpu gydag unrhyw gŵyn sydd gennych am osteopath. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein taflen ffeithiau Gwneud Cwyn.
Os ydych yn penderfynu gwneud cwyn ffurfiol yn erbyn osteopath, bydd angen i chi gyflwyno cymaint o wybodaeth â phosibl am y cyhuddiadau. Gallwch drafod hyn dros y ffôn (gweler isod) ond bydd angen i ni dderbyn copi ysgrifenedig o’ch cwyn hefyd. Gallwch lawrlwytho ein Ffurflen Gwyno, neu fe allwn bostio neu e-bostio copi atoch.
Dylech roi cymaint o wybodaeth â phosibl ar y ffurflen a’i dychwelyd atom ynghyd ag unrhyw bapurau neu ddogfennau ategol. Mae’n bosibl y bydd gofyn i chi wneud datganiad hefyd, a byddwn yn cysylltu â chi i drafod hyn ar ôl derbyn eich ffurflen.
Mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i ystyried cwynion sy’n ymwneud â’r canlynol:
Dylech gysylltu â ni ar unwaith os oes gennych gŵyn am osteopath sy’n ymwneud ag unrhyw un o’r canlynol:
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein taflen Gwneud Cwyn.
I drafod unrhyw bryderon neu gwynion sydd gennych am eich osteopath neu’ch triniaeth osteopathig, dylech ffonio 020 7357 6655 (+44 20 7357 6655 o’r tu allan i’r DU) est. 224 yn ystod oriau swyddfa, neu anfon e-bost at regulation@osteopathy.org.uk. Nid ydym ar agor ar y penwythnos na Gwyliau Banc.
Neu fe allwch ysgrifennu at:
Regulation Department
The General Osteopathic Council
Osteopathy House
176 Tower Bridge Road
London SE1 3LU
Cynllun Iaith Gymraeg Rydym wedi mabwysiadu’r egwyddor y byddwn yn trin yr iaith Gymraeg a’r iaith Saesneg yn gyfartal wrth gynnal ein busnes yng Nghymru.
Mae ein Cynllun Iaith Gymraeg, yn egluro sut rydym yn darparu gwasanaethau i gleifion ac aelodau’r cyhoedd sy’n siarad Cymraeg.
Cymeradwywyd ein cynllun gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg ar 12 Gorffennaf 2011, yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus. Byddwn yn monitro sut bydd y cynllun yn cael ei weithredu a byddwn yn adrodd yn flynyddol i’r Cyngor Osteopathig Cyffredinol a Bwrdd yr Iaith Gymraeg ar y cynnydd o ran gweithredu’r cynllun.
Rydym yn croesawu adborth ar y cynllun ar unrhyw adeg a gallwch anfon eich sylwadau atom gan ddefnyddio’r Ffurflen Cysylltu â ni ar y wefan hon neu drwy e-bostio: cymraeg@osteopathy.org.uk.
Rhif ffôn: 020 7357 6655;
E-bost: info@osteopathy.org.uk;
Y ffurflen ‘Cysylltu â ni’ ar y wefan hon: www.osteopathy.org.uk/contact-us/