Diolch am eich diddordeb mewn ymuno â Fforwm Cynnwys Cleifion y Cyngor Osteopathig Cyffredinol.
Rydyn ni'n gofyn amrywiaeth o gwestiynau yn ein ffurflen gofrestru, fel eich oedran, ethnigrwydd a rhywedd oherwydd ein bod am sicrhau bod ein Fforwm Cynnwys Cleifion mor amrywiol â phosibl. Os oes grwpiau penodol heb gynrychiolaeth ddigonol, hoffem allu hyrwyddo cyfranogiad yn y fforwm ymhlith y grwpiau hynny.
Optional.
Mae'r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd yn diffinio bod person yn anabl os oes ganddo nam corfforol neu feddyliol sy'n sylweddol ac yn hirdymor (h.y. wedi para neu y disgwylir iddo bara o leiaf 12 mis) gydag effeithiau andwyol ar ei allu i gyflawni gweithgareddau o ddydd i ddydd.
Gwahoddir aelodau'r Fforwm Cynnwys Cleifion i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau. Fel ffordd o ddiolch am eich amser, eich arbenigedd a'ch sgiliau, rydyn ni'n cynnig ffioedd cyfranogi ar gyfer llawer o'r gweithgareddau a amlinellir isod. Gellir ystyried treuliau rhesymol ar gyfer gweithgareddau wyneb yn wyneb hefyd.
Ydych chi angen cymorth ychwanegol arnoch chi i gymryd rhan yn y Fforwm Cynnwys Cleifion? Er enghraifft, byddwn ni'n cynhyrchu deunyddiau mewn fformatau hygyrch ar gais.
Diolch am gymryd rhan. Byddwn mewn cysylltiad cyn gynted â phosibl.
Follow us
General Osteopathic Council Osteopathy House 176 Tower Bridge Road, London, SE1 3LU info@osteopathy.org.uk+44 (0) 20 7357 6655 The GOsC is a charity registered in England and Wales (1172749)
© GOsC 2025 Website developed by NetXtra