o zone login
  1. You are at:
  2. Home
  3. Cymraeg
  4. Hyfforddi a chofrestru
  5. Sut i gofrestru gyda'r GOsC

Sut i gofrestru gyda'r GOsC

Mae'r broses hon yn berthnasol os oes gennych gymhwyster yn y DU mewn osteopathi o gwrs a gydnabyddir gan y GOsC. Os cawsoch eich hyfforddi y tu allan i'r DU, ewch i adran Saesneg ein gwefan i gael gwybod mwy neu lawrlwytho ein dogfen ganllawiau Gymraeg.

Ffi Cofrestru blynyddol

Mae'r ffi blynyddol mae osteopathiaid yn ei dalu i'r Cyngor Osteopathig Cyffredinol (GOsC) yn cael ei adolygu bob blwyddyn gan y Cyngor. Mae ffioedd cofrestru wedi eu rhewi ers 2014. Y GOsC yw'r unig reoleiddiwr gofal iechyd sydd â ffi is ar gyfer graddedigion newydd sy'n ymuno â'r Gofrestr am y tro cyntaf. Mae gennym ffi is yn y flwyddyn ymarfer gyntaf a'r ail flwyddyn yn ogystal â gostyngiadau am resymau fel absenoldeb mamolaeth neu salwch.

Os bydd eich amgylchiadau ymarfer yn newid, dylech gysylltu â thîm Cofrestru’r GOsC. Os ydych chi'n siarad Cymraeg, gallwch gysylltu â ni yn Gymraeg a byddwn yn ymateb yn Gymraeg.

Gallwch ddewis talu eich ffi cofrestru i gyd ar unwaith neu mewn rhandaliadau. Os ydych chi'n talu mewn rhandaliadau, codir tâl gweinyddu bach sy'n cael ei ychwanegu at y ffi: £10 am y ffi ym mlynyddoedd 1 a 2, £20 ym mlwyddyn 3+.

Lefel cofrestru Ffi cofrestru
Blwyddyn 1 (mynediad) £320
Blwyddyn 2 £430
Cyfradd is Blwyddyn 2 £215
Blwyddyn 3+ y DU £570
Cyfradd is Blwyddyn 3+ £320

Dechrau'r broses gofrestru

Mae eich darparwr addysg osteopathig yn rhoi enwau'r holl fyfyrwyr blwyddyn olaf i’r GOsC ac yna byddwn yn anfon gwybodaeth atoch am sut i gofrestru yn ystod mis Ionawr eich blwyddyn raddio.

Bydd hyn yn cynnwys ein llyfryn canllawiau Cofrestru gyda'r Cyngor Osteopathig Cyffredinol, darllenwch hwn cyn gwneud cais i gofrestru.

Os nad ydych chi wedi derbyn y wybodaeth hon neu angen ffurflenni newydd, gallwch lawrlwytho copïau o'r llyfryn a'r ffurflenni o adran myfyrwyr o zone.

Dysgu mwy am gofrestru

Bydd staff y GOsC yn trefnu sesiwn gyda'ch darparwr addysg rhwng mis Ionawr a mis Mawrth i sôn wrthych am y broses gofrestru a gwaith y GOsC. Mae'r cyflwyniadau hyn yn gyfle gwerthfawr i chi ofyn cwestiynau am y broses gofrestru.

Cwblhau eich cais i gofrestru

Dylech ateb yr holl gwestiynau a sicrhau bod y ffurflenni wedi'u llofnodi a'u dyddio.

Gallwch ddychwelyd eich ffurflenni cais cyn neu ar ôl i chi gymhwyso. Dylech lenwi'r ffurflenni cyn gynted â phosibl er mwyn osgoi unrhyw oedi diangen i'ch cais cofrestru os oes gennym unrhyw gwestiynau.

I gwblhau'ch cais bydd angen i chi ddarparu:

DS – fel rhan o'ch cais, bydd angen i chi ddweud wrth y GOsC pwy yw'ch darparwr yswiriant indemniad proffesiynol arfaethedig. Ni allwch ddechrau ymarfer nes bod eich polisi yswiriant wedi'i actifadu a bydd hyn ar ôl i chi gofrestru.

Daw cadarnhad o'ch Cymhwyster Cydnabyddedig yn uniongyrchol gan eich darparwr addysg.

Ar ôl i ni dderbyn eich holl waith papur, mae'n cymryd hyd at 10 diwrnod gwaith i ni brosesu eich cais fel arfer.

Ar ôl i chi gofrestru

Pan fydd eich enw wedi'i roi ar y Gofrestr byddwch yn derbyn llythyr cadarnhau a thystysgrif gofrestru. Ni ddylech ymarfer cyn derbyn y cadarnhad hwn.

Hefyd, dylech sicrhau eich bod yn actifadu eich polisi yswiriant indemniad proffesiynol cyn dechrau ymarfer a darparu prawf o'ch yswiriant indemniad proffesiynol i'r GOsC.

Manylion cyswllt

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni trwy e-bostio registration@osteopathy.org.uk. Gallwch ysgrifennu atom yn Gymraeg, er enghraifft drwy e-bost neu'r post, a byddwn yn ymateb yn Gymraeg.