o zone login
  1. You are at:
  2. Home
  3. Cymraeg
  4. Hyfforddi a chofrestru
  5. Fforwm myfyrwyr

Fforwm myfyrwyr

Rydyn ni eisiau gwrando ar farn myfyrwyr osteopathi ar ein gwaith, i lywio ein penderfyniadau ac i wneud yn siwr bod llais y myfyriwr yn cael ei adlewyrchu yn ein holl waith.

Fel myfyriwr, os penderfynwch chi ddod yn aelod o'r fforwm, byddwch yn derbyn:

  • Taleb £30 am bob cyfarfod 1.5 awr rydych chi'n ei fynychu (hyd at 4 cyfarfod y flwyddyn)
  • Cymorth a hyfforddiant dewisol i gymryd rhan mewn trafodaethau
  • Cyfleoedd i ymgysylltu â myfyrwyr darparwyr addysg eraill ac adeiladu’ch rhwydwaith proffesiynol
  • Cyfleoedd i ddysgu mwy am waith y rheoleiddiwr ac i lywio meddylfryd a barn y GOsC ar bolisïau a fydd yn effeithio ar fyfyrwyr ac osteopathiaid yn y dyfodol

Y cyfarfod nesaf

Mae’n debygol y cynhelir cyfarfod nesaf y fforwm ym mis Hydref 2026 unwaith y bydd y flwyddyn academaidd newydd wedi dechrau.

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â'n rhestr bostio ar gyfer y fforwm neu os hoffech gael gwybod mwy, cysylltwch â ni ar: