o zone login
  1. You are at:
  2. Home
  3. Cymraeg
  4. Amdanom ni
  5. Ein gweledigaeth a’n gwerthoedd

Ein gweledigaeth a’n gwerthoedd

Ein gweledigaeth yw bod yn rheoleiddiwr cynhwysol ac arloesol y mae pawb yn ymddiried ynddo.

Mae ein gwerthoedd yn sail i’r ffordd rydym yn gweithio nawr ac yn y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys sut rydym yn gweithio gyda chleifion a’r cyhoedd, osteopathiaid a rhanddeiliaid, a sut rydym yn gweithio yn ein sefydliad yn ein timau ac ar eu traws. Rydym yn cydweithio i fod yn rheoleiddiwr dylanwadol a pharchus gan ddefnyddio dulliau gweithredu sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

GOsC values in the Welsh languageCydweithio
Rydym yn gweithio gyda’n rhanddeiliaid i sicrhau bod cleifion ac osteopathiaid wrth galon ein dull rheoleiddio.

Dylanwadol
Rydym yn ceisio cefnogi a datblygu’r rheini rydym yn gweithio gyda nhw i wella diogelwch y cyhoedd.

Parchus
Rydym yn ceisio clywed, deall ac ystyried barn y bobl rydym yn ymgysylltu â nhw.

Yn seiliedig ar dystiolaeth
Rydym yn defnyddio amrywiaeth o dystiolaeth i lywio ein gwaith i sicrhau’r canlyniadau gorau i gleifion a’r cyhoedd.

Mae ein gweledigaeth a’n gwerthoedd yn sail i’n Strategaeth bresennol, sy’n ein harwain o 2024 tuag at 2030. Darllenwch ein Strategaeth

Saith egwyddor bywyd cyhoeddus
Disgwylir i’n staff, ein Cyngor ac aelodau anweithredol eraill o’r pwyllgor sy’n gweithredu ar ran ein sefydliad gadw at saith egwyddor bywyd cyhoeddus. Nodir saith egwyddor bywyd cyhoeddus gan y Pwyllgor ar Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus, sef:

  • Anhunanoldeb
  • Cywirdeb
  • Gwrthrychedd
  • Atebolrwydd
  • Bod yn Agored
  • Gonestrwydd
  • Arweinyddiaeth

Rhagor o wybodaeth am saith egwyddor bywyd cyhoeddus