Ymchwil ar bryderon a chwynion osteopathig
Mae'r National Council for Osteopathic Research (NCOR) yn cynhyrchu adroddiad sy'n casglu data pryderon a chwynion gan y Cyngor Osteopathig Cyffredinol (GOsC), y corff aelodaeth proffesiynol sef yr Institute of Osteopathy (iO) a thri yswiriwr osteopathiaid. Mae'r adroddiad yn unigryw i'r proffesiwn osteopathig ac yn rhoi adborth gwerthfawr i osteopathiaid, myfyrwyr a darparwyr addysgol.
Mae’r NCOR yn gorff ymchwil annibynnol ar gyfer osteopathi ac fe'i hariennir gan ei grwpiau rhanddeiliaid: y Cyngor Osteopathig Cyffredinol, yr Institute of Osteopathy, The Osteopathic Foundation a darparwyr addysg osteopathig y DU. Mae cyngor llywodraethu’r NCOR yn cynnwys cynrychiolwyr o'r grwpiau rhanddeiliaid hyn a dau aelod cyfetholedig, sy'n cynrychioli ymarferwyr preifat a'r GIG. Mae’r NCOR wedi'i leoli yng Ngholeg Prifysgol Osteopathi.
Am ragor o wybodaeth ac amrywiaeth o adnoddau ewch i wefan yr NCOR.
Prif ganfyddiadau'r adroddiad diweddaraf 2013-2023
Mae prif ganfyddiadau adroddiad eleni, wedi'i ddiweddaru gyda data a gasglwyd rhwng Ionawr a Rhagfyr 2023, wedi'u nodi isod:
Nifer y pryderon: mae'r adroddiad diweddaraf hwn yn cynnwys yr ail ffigur isaf ers dechrau casglu data yn 2013. Codwyd 121 o bryderon a chwynion yn 2023, gostyngiad bach ar ffigur y flwyddyn flaenorol sef 126.
Materion clinigol: Mae'r data yn dangos nifer uwch na'r cyfartaledd o bryderon am ddiffyg neu annigonolrwydd cynllun triniaeth, a lefelau uwch o bryderon am boen newydd neu gynnydd mewn poen, a darparu triniaeth rymus.
Rheoli: Roedd pryderon am beidio â rheoli lledaeniad clefydau trosglwyddadwy ychydig yn uwch na'r cyfartaledd, felly hefyd materion a godwyd am werth am arian, a diffyg cydymffurfio â deddfau/rheoliadau iechyd a diogelwch. (Darllenwch ein canllawiau rheoli heintiau (2025)).
Materion Perthynol: Codwyd un pryder ynglyn â chydsyniad yn adroddiad eleni ac ychydig yn llai na'r cyfartaledd am gyfathrebu'n amhriodol neu'n aneffeithiol. Roedd pryderon am amhriodoldeb rhywiol yn uwch eleni gyda 15 o bryderon, er ychydig yn is na'r cyfartaledd 9 mlynedd.
Mae'n werth nodi bod osteopathiaid sydd wedi bod yn ymarfer ers 10 mlynedd neu fwy yn llawer mwy tebygol o gael pryder yn cael ei godi yn eu herbyn, canfyddiad sy'n debyg mewn proffesiynau eraill.
Mae'r adroddiad yn nodi bod cynnydd yn y nifer hwn yn destun pryder i bob clinigydd gan ei fod yn cynrychioli tor ymddiriedaeth mewn gweithiwr gofal iechyd proffesiynol. Am y rheswm hwn, mae GOsC yn cynnig DPP gorfodol ym maes sefydlu a chynnal ffiniau proffesiynol fel rhan o ofyniad cyfathrebu a chydsyniad ein cynllun DPP. Mae ein hymgynghoriad ar newidiadau arfaethedig i'n Canllawiau DPP a'r Adolygiad Trafodaeth Cymheiriaid newydd gael ei gwblhau.
Prif wersi ar gyfer osteopathiaid o'r adroddiad diweddaraf 2013-2023
Er mai nifer y pryderon yn yr adroddiad diweddaraf hwn yw'r ail isaf ers dechrau casglu data yn 2013, mae rhai pethau pwysig i’w dysgu am y mathau o faterion sy'n arwain at bryderon yn cael eu codi.
Codwyd 121 o bryderon a chwynion yn 2023, gostyngiad o'r 126 y flwyddyn cynt. Felly mae tebygolrwydd isel y bydd osteopathiaid yn destun cwyn. Fodd bynnag, mae'n bwysig bod yn ymwybodol y gall bod yn destun cwyn fod yn rhan annatod o fod yn weithiwr proffesiynol, yn enwedig dros yrfa hir. Y pwynt pwysig yw ystyried sut mae osteopath yn ymateb i bryder sy'n cael ei godi. Mae myfyrio ar sut rydych chi’n ymdrin â phryderon i helpu i hyrwyddo eu datrys a dysgu oddi wrthynt yn hollbwysig. Mae ein hadroddiad dyletswydd gonestrwydd (2024) hefyd yn cynnwys awgrymiadau a syniadau defnyddiol ynghylch sut i reoli pryderon a dysgu ohonynt. Mae'n werth nodi bod osteopathiaid sydd wedi bod yn ymarfer ers 10 mlynedd neu fwy yn llawer mwy tebygol o gael pryder wedi’i godi amdanynt, canfyddiad sy'n debyg mewn proffesiynau eraill.
Materion clinigol:
Mae'r data yn dangos nifer uwch na'r cyfartaledd o bryderon am ddiffyg neu annigonolrwydd cynllun triniaeth, a lefelau uwch o bryderon am boen newydd neu gynnydd mewn poen, a darparu triniaeth rymus. Felly gallai osteopathiaid ystyried gofyn cwestiynau iddyn nhw eu hunain fel: Ydw i wedi bod yn glir gyda chleifion ynglyn â beth i'w ddisgwyl ar ôl triniaeth? Ydw i wedi ei gwneud hi'n glir sut bydd y driniaeth yn teimlo i'r claf?
Gallai osteopathiaid roi cynnig ar chwarae rôl gyda gwahanol gydweithwyr i gael adborth ar ddulliau a sut byddai modd eu teilwra i wahanol gleifion neu gleifion newydd. Mae ein llyfr gwaith ar drafodaethau seiliedig ar achosion yn cynnwys rhai astudiaethau achos y gallech eu defnyddio i archwilio'r maes hwn.
Rheoli:
Roedd pryderon am beidio â rheoli lledaeniad clefydau trosglwyddadwy ychydig yn uwch na'r cyfartaledd, felly hefyd materion a godwyd am werth am arian, a diffyg cydymffurfio â deddfau/rheoliadau iechyd a diogelwch. (Darllenwch ein canllawiau rheoli heintiau (2025)).
Mae'r rhain yn ymwneud â Thema C y Safonau Ymarfer Osteopathig – diogelwch ac ansawdd wrth ymarfer. Felly gallai osteopathiaid ystyried: adolygu'r Safonau Ymarfer Osteopathig yn Thema C a sicrhau bod eu polisïau asesu risg a rheoli heintiau yn gyfredol ac yn unol â'r canllawiau perthnasol.
Materion Perthynol:
Codwyd un pryder ynglyn â chydsyniad ac ychydig yn llai na'r cyfartaledd am gyfathrebu'n amhriodol neu'n aneffeithiol. Roedd pryderon am amhriodoldeb rhywiol yn uwch gyda 15 o bryderon eleni, er ychydig yn is na'r cyfartaledd 9 mlynedd.
bod cynnydd yn y nifer hwn yn destun pryder i bob clinigydd gan ei fod yn cynrychioli tor ymddiriedaeth mewn gweithiwr gofal iechyd proffesiynol. Am y rheswm hwn, mae GOsC yn cynnig DPP gorfodol ym maes sefydlu a chynnal ffiniau proffesiynol fel rhan o ofyniad cyfathrebu a chydsyniad ein cynllun DPP. Mae ein hymgynghoriad ar newidiadau arfaethedig i'n Canllawiau DPP a'r Adolygiad Trafodaeth Cymheiriaid newydd gael ei gwblhau. Mae gennym lawer o adnoddau ac astudiaethau achos ar ein gwefan i gefnogi dysgu yn y maes hwn gan gynnwys pwysigrwydd siarad os oes gennych bryderon.
Adroddiadau blaenorol
Adroddiad Pryderon a Chwynion yr NCOR 2013-23
Adroddiad Pryderon a Chwynion yr NCOR 2013-22
Adroddiad Pryderon a Chwynion yr NCOR 2013-21