Helpu cleifion i wneud penderfyniadau
Mae gennym amrywiaeth o adnoddau ar gyfer cleifion ac osteopathiaid. Gall yr adnoddau hyn helpu osteopathiaid a chleifion i wneud penderfyniadau am ofal gyda'i gilydd, gan ystyried yr hyn sy'n bwysig i bob un ohonynt.
Cafodd yr adnoddau eu cynhyrchu ar y cyd â chleifion ac ymarferwyr gofal iechyd, gan gynnwys osteopathiaid, fel rhan o raglen ymchwil gydweithredol gyda'r Cyngor Deintyddol Cyffredinol a'r Collaborating Centre for Values Based Practice yn St Catherine's College, Rhydychen.
Nod yr adnoddau hyn yw cefnogi ymgynghoriadau llwyddiannus rhwng cleifion ac osteopathiaid drwy helpu i wrando a chyfleu eu dewisiadau, eu credoau a'u gwerthoedd unigol i'w gilydd.
I lawrlwytho'r adnoddau hyn am ddim yn Gymraeg, cliciwch ar y lluniau isod.
Adnoddau i osteopathiaid
Mae'r adnoddau canlynol yn addas i osteopathiaid:
Ffurflen fyfyrio'r ymarferydd
Bydd y ffurflen hon yn helpu osteopathiaid i sgorio eu canfyddiadau eu hunain o’r gofal maen nhw'n ei ddarparu i gleifion, gan ddefnyddio mesur CARE.
Adnoddau i gleifion
Mae'r adnoddau y gall osteopathiaid eu rhannu â'u cleifion yn cynnwys:
Ffurflen hanes claf
Mae'r ffurflen hon yn galluogi cleifion – yn enwedig rhai sydd â chyflyrau hirdymor – i gyflwyno eu hanes mewn ffordd sy'n ystyrlon iddyn nhw, gan gynnwys gwybodaeth am eu cyflwr, eu bywyd, a beth maen nhw'n ei wneud. Gall y ffurflen hon helpu cleifion i nodi'n glir i ymarferwyr yr hyn maen nhw ei eisiau a'i angen o'u hymgynghoriad.
Cynllunydd Nod Cleifion
Mae'r cynllunydd hwn yn galluogi cleifion i nodi eu nodau (er enghraifft, codi plant o'r ysgol, gwneud y garddio, mynd i nofio unwaith yr wythnos, a gallu gweithio heb gymryd gormod o amser ar absenoldeb salwch) ac yna olrhain dros amser sut mae eu symptomau neu eu cyflwr yn effeithio ar y nodau hynny.
Taflen/poster cleifion
Gallwch anfon y daflen hon at y claf cyn ei apwyntiad i'w helpu i feddwl am ei nodau ar gyfer y driniaeth a'r hyn yr hoffai ei gael o'r ymgynghoriad. Hefyd, gallwch ddangos y wybodaeth ar ffurf poster yn nerbynfa’r clinig fel ysgogiad i gleifion.
Animeiddiad ‘visiting an osteopath’
Gallwch wylio'r animeiddiad hwn ar sianel YouTube y GOsC. Gellir anfon dolen at gleifion cyn iddyn nhw ymweld â chlinig osteopath i'w helpu i baratoi ar gyfer eu hymgynghoriad cyntaf ac i feddwl am eu disgwyliadau o driniaeth osteopathig.
Gwylio’r fideo:
Dysgwch fwy am ein rhaglen ymchwil gydweithredol
Gallwch ddarllen mwy am y rhaglen ymchwil a'r adnoddau a gynhyrchwyd mewn erthygl o'r enw Connecting patients, practitioners, and regulators in supporting positive experiences and processes of shared decision making (2019) a gyhoeddwyd yn y Journal of Evaluation in Clinical Practice.