o zone login
  1. You are at:
  2. Home
  3. Cymraeg
  4. Ymweld ag osteopath
  5. Ynglyn ag osteopathi

Ynglyn ag osteopathi

System o ddiagnosis a thriniaeth ar gyfer amrywiaeth eang o gyflyrau meddygol yw osteopathi. Mae'n gweithio gyda strwythur a swyddogaeth y corff ac mae'n seiliedig ar yr egwyddor bod lles unigolyn yn dibynnu ar y sgerbwd, y cyhyrau, y gewynnau a’r meinweoedd cyswllt yn gweithio'n rhwydd gyda'i gilydd.

Mae osteopathiaid yn defnyddio cyffyrddiad, trin corfforol, ymestyn a thylino i gynyddu symudedd cymalau, i leddfu tensiwn cyhyrau, i wella'r cyflenwad gwaed a nerfau i feinweoedd, ac i helpu mecanweithiau iachâd eich corff eich hun. Efallai y byddant hefyd yn darparu cyngor ar osgo ac ymarfer corff i gynorthwyo adferiad, hybu iechyd ac atal symptomau rhag digwydd eto.

Rheoleiddio osteopathi

Mae'r holl osteopathiaid yn y DU yn cael eu rheoleiddio gan y Cyngor Osteopathig Cyffredinol (GOsC).

Mae'n ofynnol i osteopathiaid adnewyddu eu cofrestriad bob blwyddyn ac rydym yn darparu trwydded flynyddol i gofrestreion ymarfer. Fel rhan o'r broses hon, mae'r GOsC yn gwirio bod gan osteopathiaid yswiriant indemniad proffesiynol cyfredol, bod eu hiechyd yn dal i fod yn dda a bod ganddynt gymeriad da, a’u bod wedi bodloni gofynion datblygiad proffesiynol parhaus gorfodol.

Atal ymarfer anghofrestredig

Mae'r teitl osteopathig wedi'i warchod gan y gyfraith. Mae'n anghyfreithlon i unrhyw un alw ei hun yn osteopath yn y DU oni bai ei fod wedi cofrestru gyda'r GOsC, sy'n gosod ac yn hyrwyddo safonau uchel o gymhwysedd, ymddygiad a diogelwch.

Gall y GOsC, a bydd yn erlyn unigolion sy'n ymarfer fel osteopathiaid pan nad ydynt ar y Gofrestr. I wybod beth i'w wneud os ydych chi'n amau bod rhywun yn ymarfer fel osteopath ond nad yw ar y Gofrestr, ewch i'n tudalen Diogelu'r teitl 'osteopath'.

Rhagor o wybodaeth

Am fanylion safonau ymarfer osteopathig ewch i'r adran Safonau. Defnyddiwch y Gofrestr i chwilio am osteopath lleol. Hefyd, gallwch lawrlwytho ein taflenni gwybodaeth What to expect from your osteopath a Standards of osteopathic care.

Pwy a beth mae osteopathiaid yn eu trin?

Mae cleifion osteopathiaid yn cynnwys pobl ifanc, pobl hyn, gweithwyr llaw, gweithwyr swyddfa proffesiynol, menywod beichiog, plant a phobl ym maes chwaraeon. Mae cleifion yn gofyn am driniaeth ar gyfer amrywiaeth eang o gyflyrau, gan gynnwys poen cefn, newidiadau i osgo yn ystod beichiogrwydd, problemau osgo a achosir gan yrru neu straen gwaith, poen arthritis a mân anafiadau chwaraeon.