o zone login
  1. You are at:
  2. Home
  3. Cymraeg
  4. Ein sefydliad
  5. Uwch Dîm Rheoli

Uwch Dîm Rheoli

Mae'r Uwch Dîm Rheoli’n cynnwys y Prif Weithredwr a'r Cofrestrydd; y Cyfarwyddwr Addysg, Safonau a Datblygu; a'r Cyfarwyddwr Addasrwydd i Ymarfer. Yr Uwch Dîm Rheoli sy'n gyfrifol, drwy'r Prif Weithredwr, am weithrediadau’r GOsC o ddydd i ddydd ar ran y Cyngor.

Mae'r Uwch Dîm Rheoli’n arwain staff ym mhob gweithgaredd polisi a gweithredol, ac wrth gyflawni dyletswyddau statudol a gofynion elusennol y GOsC. Mae'r Tîm yn rhannu cyfrifoldeb ar y cyd am gamau gweithredu a phenderfyniadau sy'n cael eu cymryd waeth beth yw cyfrifoldebau rheoli llinell.

Matthew Redford, Prif Weithredwr a Chofrestrydd, sy'n arwain yr Uwch Dîm Rheoli.

DS: Yn anffodus, ni allwn dderbyn galwadau ffôn yn Gymraeg gan nad oes gennym aelod o staff sy'n siarad Cymraeg. Os ydych chi'n siaradwr Cymraeg, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy e-bost neu'r post a byddwn yn ymateb i chi yn Gymraeg.

Matthew Redford, Prif Weithredwr a Chofrestrydd

Mae Matthew Redford yn dal swydd ffurfiol y ‘Cofrestrydd’ a bennir yn y Ddeddf Osteopathiaid. Yn ogystal â'r dyletswyddau hyn mae'n gyfrifydd ac yn arwain yr Uwch Dîm Rheoli a gweithredol ac mae'n atebol i Gyngor y GOsC am gyflawni'r Strategaeth Gorfforaethol, y Cynllun Busnes a'r Gyllideb. Mae’n arwain ar nifer o weithgareddau corfforaethol pwysig hefyd gan gynnwys: llywodraethu ac adrodd; cydraddoldeb ac amrywiaeth; a diogelu data.

Cofrestru

Mae'r tîm Cofrestru’n gyfrifol am gynnal y Gofrestr statudol o osteopathiaid, asesiadau cofrestru rhyngwladol a chydymffurfiaeth, a gweithgarwch archwilio ar gyfer osteopathiaid sydd eisoes ar y Gofrestr.

Mae'r adran Gofrestru’n prosesu ceisiadau cofrestru gan weithwyr proffesiynol osteopathi cymwys ac yn goruchwylio’r broses adnewyddu cofrestriad flynyddol, gan gynnwys gweinyddu a sicrhau ansawdd cyflwyniadau DPP.

Ymholiadau: e-bost: registration@osteopathy.org.uk neu cpd@osteopathy.org.uk
Rhif ffôn: 020 7357 6655 estyniad 256, 229, 235, 238

Sicrwydd ac Adnoddau

Mae'r tîm Sicrwydd ac Adnoddau yn gyfrifol am gyllid, archwiliadau ariannol, cyfleusterau a swyddogaethau TG.

Ysgrifenyddiaeth

Mae’n darparu cymorth uniongyrchol i'r Cadeirydd, y Prif Weithredwr a'r Cofrestrydd, ac Aelodau'r Cyngor. Mae'n gyfrifol am swyddogaethau adnoddau dynol y sefydliad ac am sicrhau llywodraethu corfforaethol da. Mae'r Cyngor a'r Swyddog Cymorth Gweithredol yn trefnu cyfarfodydd y Cyngor.

Cadeirydd a Prif Weithredwr a Chofrestrydd: e-bost: council@osteopathy.org.uk Ffôn: 020 7357 6655 estyniad 246

Swyddog Cymorth Gweithredol a’r Cyngor (ar gyfer ymholiadau am Aelodau'r Cyngor, cyfarfodydd a busnes Pwyllgorau’r GOsC): e-bost: council@osteopathy.org.uk Ffôn: 020 7357 6655 estyniad 246

Adnoddau Dynol: e-bost: hr@osteopathy.org.uk Ffôn: 020 7357 6655 estyniad 252

Cyfarwyddwr Addysg, Safonau a Datblygu – Fiona Browne

Fiona Browne sy'n arwain y tîm Safonau Proffesiynol ac mae’n gyfrifol am y Tîm Cyfathrebu ac Ymgysylltu hefyd.

Mae Fiona’n un o ymddiriedolwyr Cymdeithas y Cleifion ac yn aelod o Bwyllgor Ymgynghorol Safonau llywodraeth leol sy'n rhoi cyngor am safonau mewn llywodraeth leol.

Safonau Proffesiynol

Mae'r tîm Safonau Proffesiynol yn gyfrifol am safonau israddedig a chyn-gofrestru, sicrhau ansawdd, safonau, datblygiad proffesiynol parhaus ac amrywiaeth o brosiectau polisi ac ymchwil i gefnogi gwell gofal cleifion a diogelwch cleifion.

Ymholiadau: e-bost: standards@osteopathy.org.uk Ffôn: 020 7357 6655 estyniad 239

Cyfathrebu ac Ymgysylltu

Trwy hysbysu ac ymgysylltu ag osteopathiaid a chleifion, yn ogystal â rhanddeiliaid allweddol eraill, mae'r tîm Cyfathrebu ac Ymgysylltu’n helpu i hyrwyddo safonau proffesiynol uchel ac arferion gorau. Mae’n gyfrifol am brif sianeli cyfathrebu'r GOsC, ac yn darparu gwybodaeth i aelodau'r cyhoedd ac osteopathiaid hefyd.

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol ac i wirio cofrestriad osteopath: e-bost: info@osteopathy.org.uk Ffôn: 020 7357 6655 estyniad 242

Ymholiadau'r cyfryngau: e-bost: pressoffice@osteopathy.org.uk Ffôn: 020 7357 6655 estyniad245

Gwefannau: e-bost: webmanager@osteopathy.org.uk Ffôn: 020 7357 6655 estyniad 228

Cyfarwyddwr Addasrwydd i Ymarfer – Sheleen McCormack

Sheleen McCormack sy'n arwain yr adran addasrwydd i ymarfer ac mae'n gyfrifol am oruchwylio'r gwaith o reoli swyddogaeth addasrwydd i ymarfer a phrosesau diogelu teitl y GosC. Mae Sheleen yn fargyfreithiwr ac mae’n gweithredu fel cwnsler cyffredinol hefyd sy'n ymdrin â'r holl faterion cyfreithiol gan gynnwys apeliadau, diogelu data, rhyddid gwybodaeth a drafftio deddfwriaeth. Ar hyn o bryd mae Sheleen yn gadeirydd paneli addasrwydd i ymarfer ar gyfer rheoleiddiwr gofal iechyd arall ac mae'n gweithredu fel Adolygydd Annibynnol ar gyfer rheoleiddiwr proffesiynol.

Mae'r adran yn derbyn unrhyw bryderon neu gwynion am addasrwydd osteopathiaid i ymarfer a chwynion yn erbyn aelodau'r Cyngor a'r pwyllgorau hefyd. Mae'r adran yn gyfrifol am gyhoeddi'r adroddiad addasrwydd i ymarfer blynyddol hefyd.

Ymholiadau: e-bost: regulation@osteopathy.org.uk Ffôn: 020 7357 6655 estyniad 224, 249