Chwilio drwy'r Gofrestr
Efallai y byddwch yn gallu dod o hyd i osteopath yn eich ardal trwy chwilio drwy'r gofrestr. Os na allwch chi ddod o hyd i osteopath, gallwch gael cyngor ar gyfer problem feddygol frys gan GIG 111.
Yng nghyd-destun COVID-19 os ydych chi'n poeni am weld osteopath, neu os oes gennych gwestiynau am y camau sy'n cael eu cymryd i gadw cleifion yn ddiogel, beth am gysylltu â'ch osteopath ymlaen llaw i drafod eich pryderon neu gwestiynau.
Sut i chwilio
Mae gwybodaeth ar ein cofrestr ar gael yn Saesneg. Gallwch chwilio am osteopathiaid sy’n siarad Cymraeg gan ddefnyddio'r Gofrestr drwy dicio'r bocs ger ‘Welsh-spoken’ ar y dudalen chwilio.
Hefyd, gallwch ddefnyddio ein map rhyngweithiol o'r DU (cliciwch ar Browse by county) i gael rhestrau o osteopathiaid mewn siroedd penodol a dinasoedd mawr. Rhowch eich cyrchwr ar sir i weld enw'r sir; cliciwch ar y sir i weld y rhestr.
Mae clicio ar enw osteopath yn cysylltu â thudalen gyda manylion am yr ymarferydd, gan gynnwys ei rif cofrestru, blwyddyn gymhwyso, blwyddyn gofrestru a manylion cyswllt.
Os nad yw'r osteopath rydych chi'n chwilio amdano wedi'i restru, nid yw hyn yn golygu o reidrwydd nad yw wedi cofrestru gyda ni. Efallai nad yw ei enw wedi'i sillafu'n gywir, neu ei fod wedi newid ei enw.
Os na allwch ddod o hyd i'r osteopath rydych chi'n chwilio amdano neu os ydych chi angen rhagor o gymorth, cysylltwch â ni ar info@osteopathy.org.uk neu ffoniwch 020 7357 6655 estyniad 242. Sylwer, ni allwn dderbyn galwadau yn Gymraeg gan nad oes gennym aelod o staff sy’n siarad Cymraeg ar hyn o bryd. Gallwch gysylltu â ni drwy e-bost neu drwy'r post a byddwn yn ymateb yn Gymraeg.
Byddem yn croesawu adborth ar eich profiad o ddefnyddio'r Gofrestr. Os hoffech chi rannu eich adborth, cysylltwch â webmanager@osteopathy.org.uk neu ffoniwch 020 7357 6655 estyniad 228.
Penderfyniadau addasrwydd i ymarfer ar y Gofrestr
Mae rhai penderfyniadau addasrwydd i ymarfer yn cael eu nodi ar y Gofrestr
- Undertaking/Ymrwymiad: mae hyn yn dangos bod yr osteopath wedi rhoi ymrwymiad, gan esbonio sut mae'n bwriadu ymddwyn am gyfnod penodol o amser, fel arfer hyd nes y bydd yr ymchwiliad y mae'n rhan ohono wedi dod i ben.
- CP/Amodau Ymarfer: mae hyn yn dangos bod gan yr osteopath amodau ymarfer sy'n berthnasol iddo.
- Suspended/Wedi'i atal: mae hyn yn dangos ei fod wedi'i atal ar hyn o bryd ac na chaniateir iddo ymarfer fel osteopath.
Nid yw achosion o geryddu osteopathiaid a chofrestreion sydd wedi'u tynnu o'r Gofrestr ar ôl gwrandawiad addasrwydd i ymarfer yn ymddangos ar y Gofrestr ond mae'r penderfyniadau hyn at gael ar y dudalen penderfyniadau Saesneg ac yn ein Hadroddiadau Addasrwydd i Ymarfer blynyddol.