Grwp Partneriaeth Cleifion a’r Cyhoedd
- A hoffech chi ymwneud â datblygu gwybodaeth i gleifion a’r cyhoedd?
- Oes gennych chi ddiddordeb mewn safonau ymarfer osteopathig?
Mae Grwp Partneriaeth Cleifion a’r Cyhoedd yn ein galluogi i gydweithio’n agosach gyda chleifion i wella ein gwasanaethau, i ddiogelu’r cyhoedd yn well, a darparu’r wybodaeth angenrheidiol am ymarfer osteopathig i gleifion a’r cyhoedd.
Aelodau’r grwp:
- cael safbwynt cleifion a’r cyhoedd i lywio ein gwaith
- helpu i ddatblygu deunyddiau cyfathrebu’r Cyngor.
Cylchlythyr
Darllenwch rifyn diweddaraf cylchlythyr Grwp Partneriaeth Cleifion a’r Cyhoedd.
Sut mae’r grwp yn gweithredu
‘Grwp rhithwir’ yw’r grwp yn bennaf, yn cyfathrebu â ni drwy e-bost neu bost. Gall unrhyw un sydd am ymuno ond sydd heb gysylltiad â’r Rhyngrwyd anfon sylwadau drwy’r post neu wneud sylwadau dros y ffôn. Efallai y byddwn yn gwahodd aelodau’r grwp i grwpiau (ffocws) trafod os bydd hynny’n fuddiol ar gyfer materion penodol. Mewn achos o’r fath byddem yn talu costau teithio rhesymol.
Pwy all ymuno?
Mae’n rhaid i chi fod dros 18 oed i ymuno â’r grwp ac nid oes unrhyw derfyn oedran. Dylai aelodau’r grwp fod yn gleifion osteopathig neu fod â diddordeb mewn ymarfer osteopathig. Byddwn yn ceisio cynnwys aelodau o bedair gwlad y DU.
Taliad cydnabyddiaeth
Mae aelodaeth o’r Grwp Partneriaeth Cleifion a’r Cyhoedd yn wirfoddol.
Rhagor o wybodaeth
Am ragor o wybodaeth, darllenwch ein canllaw gwybodaeth i’r Grwp Partneriaeth Cleifion a’r Cyhoedd a’n taflen.
Gwneud cais i ymuno â’r grwp
Cysylltwch â Sarah Eldred, Rheolwr Cyfathrebu ar 020 7357 6655 est 245 neu e-bostiwch seldred@osteopathy.org.uk.
Grwpiau ffocws
Gallwch gymryd rhan yn ein gwaith drwy grwpiau ffocws hefyd. Rydym yn cynnal y rhain o bryd i’w gilydd a bydd gwybodaeth am grwpiau ffocws y dyfodol yn ymddangos yma.