Cwynion yn erbyn aelodau’r
Mae’r Cyngor Osteopathig Cyffredin yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth hygyrch, ymatebol, tryloyw o safon uchel. Bydd unrhyw gwynion neu bryderon ynglyn ag aelodau’r Cyngor neu ei bwyllgorau, yn cynnwys aelodau cyfetholedig, yn cael eu hymchwilio’n llawn a chamau priodol yn cael eu cymryd.
Camau cyntaf
Lle bo’n bosibl, dylech fynegi eich pryderon neu’ch cwynion wrth aelod o’r Cyngor neu bwyllgor i ddechrau. Os yw hyn yn amhriodol, neu os nad yw hi’n bosibl sicrhau ateb, gellir dilyn y weithdrefn gwyno ffurfiol.
Gwneud cwyn
Mae’r weithdrefn gwyno hon wedi’i nodi yn ein taflen am Gwneud Cwyn am Aelod o’r Strwythur Llywodraethu sy’n cynnwys aelodau’r Cyngor ac aelodau’r Pwyllgorau. Gallwch gyfeirio at God Ymddygiad y Cyngor hefyd. Os hoffech wneud cwyn ffurfiol bydd angen i chi lenwi ffurflen gwyno a’i hanfon atom.
Rhagor o wybodaeth
Gallwch gysylltu â’r Cyngor a’r Swyddog Cymorth Gweithredol i gael rhagor o wybodaeth drwy anfon e-bost at council@osteopathy.org.uk.
Cwynion eraill
Mae gweithdrefn debyg i’w chael ar gyfer cwynion am y Cyngor Osteopathig Cyffredinol. Gweler Ein perfformiad am ragor o wybodaeth.