Pryderon a chwynion
Rhan bwysig o’n gwaith yw ymdrin â chwynion a phryderon am osteopathiaid gan gleifion, osteopathiaid neu weithwyr iechyd proffesiynol eraill. Mae pob osteopath sy’n gweithio yn y DU yn gorfod cofrestru gyda ni a bodloni’r Safonau Ymarfer Osteopathig.
Os ydych yn glaf sy’n poeni am y driniaeth a gawsoch neu am ymddygiad osteopath, y man cychwyn gan amlaf yw siarad â’r unigolyn a oedd yn gyfrifol am y driniaeth yn y lle cyntaf. Mae pryderon llawer o gleifion yn deillio o gamddealltwriaeth, ac yn aml iawn mae trafod pryderon gyda’r osteopath yn gyntaf yn fuddiol.
Pe byddai’n well gennych beidio â gwneud hyn, efallai gallwch drafod y mater ag osteopath arall yn y practis. Gofynnwch am bolisi cwyno’r practis. Os nad oes neb arall yn gweithio yn y practis, mae’n bosibl y bydd osteopath arall yn gallu cynnig ei farn. Bydd y rhan fwyaf yn fwy na pharod i’ch helpu.
Os ydych yn anfodlon â’r ymateb i’ch pryderon, neu os ydych am wneud cwyn ffurfiol, dylech gysylltu â ni. Rydym yma i’ch helpu gydag unrhyw gwyn sydd gennych am osteopath. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein taflen ffeithiau Sut mae gwneud cwyn am osteopath.
Os ydych yn penderfynu gwneud cwyn ffurfiol yn erbyn osteopath, bydd angen i chi gyflwyno cymaint o wybodaeth â phosibl am y cyhuddiadau. Gallwch drafod hyn dros y ffôn (gweler isod) ond bydd angen i ni dderbyn copi ysgrifenedig o’ch cwyn hefyd. Gallwch lawrlwytho ein Ffurflen Gwyno, neu fe allwn bostio neu e-bostio copi atoch.
Dylech roi cymaint o wybodaeth â phosibl ar y ffurflen a’i dychwelyd atom ynghyd ag unrhyw bapurau neu ddogfennau ategol. Mae’n bosibl y bydd gofyn i chi wneud datganiad hefyd, a byddwn yn cysylltu â chi i drafod hyn ar ôl derbyn eich ffurflen.
Mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i ystyried cwynion sy’n ymwneud â’r canlynol:
- nid yw ymddygiad osteopath yn cyrraedd safonau ein Safonau Ymarfer Osteopathig;
- mae osteopath yn euog o anghymhwystra proffesiynol am nad yw ei waith yn cyrraedd safonau ein Safonau Ymarfer Osteopathig;
- mae osteopath yn cael ei ddyfarnu’n euog o drosedd – os yw hyn yn digwydd, byddwn yn ystyried y gollfarn i benderfynu a yw’n effeithio ar allu’r osteopath i ymarfer;
- mae cyflwr corfforol neu feddyliol osteopath yn cael effaith ddifrifol ar ei waith – os oes gan osteopath broblem iechyd, byddwn yn ystyried sut mae’n effeithio ar ei allu i ymarfer.
Dylech gysylltu â ni ar unwaith os oes gennych gwyn am osteopath sy’n ymwneud ag unrhyw un o’r canlynol:
- ymddygiad anonest, anweddus neu dreisgar;
- gweithio o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau;
- cael perthynas bersonol â chlaf;
- archwilio neu drin claf heb ei ganiatâd;
- anghymhwystra – pan nad yw gwaith osteopath yn cyrraedd safonau ein Safonau Ymarfer Osteopathig.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein taflen Sut mae gwneud cwyn am osteopath.
I drafod unrhyw bryderon neu gwynion sydd gennych am eich osteopath neu’ch triniaeth osteopathig, dylech ffonio 020 7357 6655 (+44 20 7357 6655 o’r tu allan i’r DU) est. 224 yn ystod oriau swyddfa, neu anfon e-bost at regulation@osteopathy.org.uk. Nid ydym ar agor ar y penwythnos na Gwyliau Banc.
Neu fe allwch ysgrifennu at:
Regulation Department
The General Osteopathic Council
Osteopathy House
176 Tower Bridge Road
London SE1 3LU
Canllaw i dystion
Mae cynnal diogelwch cleifion a hyder y cyhoedd yn y proffesiwn osteopathig yn golygu bod yn rhaid i ni ystyried ac ymchwilio i gwynion am ymddygiad, cymhwysedd neu iechyd osteopathiaid. Er mwyn gwneud hyn rydym yn dibynnu ar gleifion ac aelodau’r cyhoedd i ddweud wrthym os oes ganddynt bryderon am osteopath cofrestredig. Mae rôl tystion yn hanfodol i’r broses hon.
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod tystion yn cael eu trin â pharch a sensitifrwydd. Nod y canllaw hwn yw helpu tystion i roi eu tystiolaeth orau mewn gwrandawiad.